Skip to Main Content

Mae prosiect yn cynnig grantiau gwerth £10,000 i fusnesau a grwpiau cymunedol i ddatblygu cadwyni cyflenwi bwyd lleol.

Mae gan raglen Food4Growth yn Nhorfaen, Caerffili a Sir Fynwy ddau gynllun grant, gyda’r nod o gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol, creu rhwydweithiau bwyd newydd a chynnig ateb cynaliadwy i dlodi bwyd.

Mae’r Cynllun Busnes Gwledig yn agored i fusnesau sydd â syniadau arloesol am sut i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch, fel arallgyfeirio neu edrych ar brosesau newydd fel tyfu fertigol.

Mae’r Cynllun Bwyd Cymunedol yn agored i sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol neu wasanaethau sector cyhoeddus sydd â syniadau am ffyrdd newydd o fynd i’r afael â thlodi bwyd, fel tyfu cynnyrch ffres neu gysylltu â gwasanaethau lles lleol.

Mae grantiau ar gael ar gyfer 12 busnes a naw grŵp cymunedol o bob rhan o Dorfaen, Caerffili a Sir Fynwy.

Ariennir y prosiect Food4Growth gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Gall ceisiadau i’r ddau gynllun wneud cais am hyd at £10,000 i ddatblygu eu syniad.

Sylwch mai’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Chwefror, a dyddiad gorffen y prosiect yw Mehefin 2022.

Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, cysylltwch â:

Torfaen

Nikki Williams, Rheolwr Datblygu Gwledig ar 01495 742147 neu e-bost nikki.williams@torfen.gov.uk

Sir Fynwy

Deserie Mansfield, Swyddog Datblygu Bwyd Datblygu Gwledig ar

01633 644319 neu e-bost deseriemansfield@monmouthshire.gov.uk

Caerffili

Phill Loveless, Swyddog Datblygu CDG ar 07775 973546 neu e-bost rdp@caerphilly.gov.uk