Yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus i reoli glaswelltir er mwyn gwella bioamrywiaeth ar draws awdurdodau lleol Gwent, mae gwaith Natur Wyllt yn cael ei gydlynu eleni er mwyn ymdrin ag ardal ehangach o Went, gyda’r nod o wneud hon yn ardal sydd yn helpu ‘pryfed peillio’ drwy ganiatáu mwy o flodau gwyllt i dyfu mewn gofodau gwyrdd.
Bydd y prosiect, sydd yn cael ei rheoli gan Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, yn ymgysylltu gyda chymunedau ar draws De-ddwyrain Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o’r dirywiad mewn pryfed peillio ac yn annog cymunedau i gymryd perchnogaeth o hyn ac yn eu hymrymuso i weithredu er mwyn eu hadfer.
Bydd Natur Wyllt yn sefydlu ffyrdd o weithio ag eraill er mwyn rheoli gofodau gwyrdd, a adnabyddir hefyd fel Seilwaith Gwyrdd, er mwyn creu cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio sydd yn gyfoethog o flodau gwyllt, a hynny ar draws y 5 awdurdod lleol (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen) Bydd Cod Gweithredu ar gyfer gweithwyr a rhaglen hyfforddi yn cael ei chynnig, gan gefnogi arferion effeithiol er mwyn rheoli pryfed peillio o fewn y rhanbarth.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Polisïau Pryfed Peillio ar gyfer awdurdodau lleol a mudiadau perthnasol eraill er mwyn sicrhau bod darnau sylweddol o dir yn cael eu gwella ar gyfer pryfed peillio, gan greu rhwydweithiau ecolegol dygn.
Mae gweithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynllunio ar gyfer 2022 er mwyn hyrwyddo’r broses o reoli blodau gwyllt a phryfed peillio, a bydd yna ddiweddariadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan neu dilynwch ni ar Twitter – @Natureisntneat a @Gwentgreengrid – am y newyddion diweddaraf.
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer yr Argyfwng Hinsawdd, y Cyngh. Jane Pratt: “Yn y flwyddyn newydd hon, rydym wrth ein bodd yn medru adeiladu ar y cynnydd sydd wedi ei wneud ym mhob un o’r awdurdodau lleol er mwyn gwella bioamrywiaeth glaswelltir, gan gynnwys Natur Wyllt ar draws Sir Fynwy. Mae pryfed peillio yn rhan hanfodol o’r ecosystemau; mae’r rhan fwyaf o blanhigion angen paill gan flodyn arall er mwyn cwblhau’r cylch bywyd a chreu ffrwythau a hadau.
Mae gwenwyn, ieir bach yr haf a llawer iawn mwy o bryfed, yn gwneud y gwaith hwn yn rhad ac am ddim, gan beillio 88% o blanhigion gwyllt a 75% o gnydau gwahanol y byd. Fodd bynnag, mae’r pryfed peillio mewn trafferth. Ers y 1980au, mae hanner y pryfed peillio gwahanol wedi dod yn llai cyffredin, ac mae’r nifer o wenwyn a phryfed hofran wedi dirywio 30%. Tra bod cynnydd wedi ei wneud, a hynny yn sgil newidiadau fel dewis pryd i dorri’r glaswellt, mae yna lawer o waith i’w wneud, ac mae eleni yn cynnig mwy o gyfle i wneud gwahaniaeth.”
Mae nifer o bryfed beillio gwahanol yng Ngwent mewn peryg, gan gynnwys y wenynen brin, Shrill Carder, sydd â’i chadarnle ar Lefelau Gwent.
Mae newidiadau er mwyn helpu cadw rhywogaethau sy’n blodeuo yn fyw am gyfnod hirach, yn helpu nid yn unig i gynnig bwyd a chynefinoedd i’r pryfed peillio a rhywogaethau eraill ond hefyd i gynyddu faint o ddŵr sydd yn cael ei amsugno a faint o garbon sydd yn cael ei ddal a’i storio, ac felly’n gwella iechyd y pridd. Mae ymchwil yn dangos fod creu amgylchedd sydd yn cefnogi ystod ehangach o fywyd gwyllt yn elwa iechyd a lles meddyliol pobl, tra’n eu hannog i arafu ac edrych ar y blodau, y pryfed a’r mathau eraill o fywyd gwyllt.
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Sir Fynwy sydd yn gyfrifol am Seilwaith Gwyrdd: “Rydym yn gyffrous iawn i gydlynu gwaith Natur Wyllt drwy gyfrwng Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, gan fod ei strategaeth yn hanfodol er mwyn medru ymateb i’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a’r heriau’n ymwneud gyda newid hinsawdd. Gan ddefnyddio dulliau Natur Wyllt, nod y prosiect yw gwella’r cyfleoedd sydd gan fywyd gwyllt i ffynnu, gan gynnig cerrig sarn iddynt symud rhwng yr ardaloedd o gynefinoedd da ar lefel ranbarthol.” Dysgwch fwy am Grid Gwyrdd Gwent yma: Gwent Green Grid Partnership – Monlife