Skip to Main Content

Lansiwyd gwasanaeth newydd sy’n galluogi preswylwyr i wirio pryd y caiff eu gwastraff a’i ailgylchu ei gasglu a helpu i gofnodi casgliad a gollwyd. Mae sgil newydd Cyngor Sir Fynwy, ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cynorthwyydd digidol Alexa a weithredir â llais, yn galluogi preswylwyr i gael mynediad i wybodaeth am eu casgliadau gwastraff drwy ddim ond gofyn cwestiynau fel ‘pryd mae fy nghasgliad ailgylchu nesaf?’ i’w dyfais Alexa.

Mae’r sgil, sydd newydd ei lunio a’i ddatblygu gan We Build Bots, yn rhan o gynigion ehangach i breswylwyr gan roi dulliau cyfleus ac uwch o wirio gwybodaeth bwysig tebyg i gasgliadau gwastraff. Mae wedi creu nifer o flynyddoedd i greu a gweithredu sgil cydnaws ag Alexa a chafodd ei gychwyn fel ffordd newydd i roi gwybodaeth i breswylwyr lle mae nifer fawr o gwestiynau yng nghyswllt un maes gwasanaeth neilltuol. Cynigir sgil Alexa wrth ochr dulliau eraill o gysylltiad yn cynnwys ‘Monty’, gwasanaeth sgwrsfot y cyngor, sydd ar gael ar y wefan neu drwy Facebook Messenger, a’r ganolfan gyswllt.

Mae’r datblygiadau technolegol newydd ymhlith nifer o ddatblygiadau a gwelliannau y bydd Tîm Dylunio Digidol y cyngor yn ei wneud i’w wasanaethau digidol fydd yn gwella profiad cwsmeriaid ac, yn benodol, ymholiadau’ sy’n ymwneud â meysydd ailgylchu a gwastraff gwastraff oherwydd y lefel uchel o alw. Mae’r gwaith hefyd yn dilyn nifer o brosiectau sy’n anelu i wella’r ffordd y mae preswylwyr Sir Fynwy yn cysylltu gyda’r cyngor i sicrhau fod gan bawb, faint bynnag o allu digidol sydd ganddynt, y dulliau sydd eu hangen i gael mynediad i wasanaethau pwysig.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Rwy’n falch iawn i ni fedru lansio’r gwasanaeth hwn, gan alluogi pobl i gael gwybodaeth yn ymwneud â gwastraff ac ailgylchu drwy ddim ond ofyn cwestiwn. Rydym wedi gweld datblygiadau cyflym mewn deallusrwydd artiffisial a’r dechnoleg i’w gefnogi mewn blynyddoedd diweddar, gan ein galluogi i wneud tasgau cyffredin yn symlach ac yn fwy effeithiol. Rydym yn ymfalchïo ar fod yn awdurdod blaengar ac mae ymchwilio technolegau newydd i helpu darparu gwasanaethau gwell ar gyfer ein preswylwyr yn un o’r ffyrdd y ceisiwn gadw i symud gyda’r amserau. Wrth i’r Nadolig agosáu, does mae’n sicr y bydd llawer o breswylwyr yn cael anrheg dyfais ‘glyfar’ newydd tebyg Alexa gan eu hanwyliaid, felly gobeithiaf weld mwy o breswylwyr yn defnyddio’r gwasanaeth newydd gwych hwn.”

Mae sgil Alexa ar gael drwy fewngofnodi i ap Alexa a galluogi’r sgil. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:   https://www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/