Roedd cyfarfod cyngor llawn Cyngor Sir Fynwy ddydd Iau 16 Rhagfyr yn cynnwys diweddariad ar y cynlluniau i wella gorsaf bws y Fenni, a godwyd i ddechrau yn y 1930au. Yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am £180,000 yn gynharach yn y flwyddyn, cadarnhawyd y caiff gwelliannau eu cwblhau cyn 31 Mawrth 2022. Mae hyn yn cynnwys cynyddu maint platfform stondin 1 er mwyn gosod lloches newydd fwy, gyda byrddau gwybodaeth a phalmant botymog. Tynnir Stand 2 yn llwyr i alluogi llif traffig drwy’r orsaf bysus. Bydd cwrbau isel a phalmentydd botymog ar bob platfform, gyda marciau clir rhwng platfformau.
Yn ychwanegol caiff yr ynys ar ben stand 5 ei thynnu i roi gwell mynediad, ond yn cadw’r palmant a’r parcio ar gyfer tacsis. Gosodir llinellau dim parcio ym Maeau 2 a 3 yr ardal parcio coetsis i sicrhau y cedwir mynediad ar gyfer bysus. Gosodir arwyddion dim mynediad yno ac i fynedfa’r orsaf bysus gan nodi’n glir pa gerbydau a ganiateir, a bydd arwyddion yng nghefn y baeau parcio coetsis i nodi amodau parcio a pha gerbydau a ganiateir a rhwng pa amser. Bydd baeau parcio arbennig ar gyfer beiciau modur tu allan i’r ardal caffe, a bydd gwaith ail-leinio yn ailosod baeau wedi eu marcio’n glir ac ardaloedd dim mynediad.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Seilwaith ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae gwaith ar orsaf fysus y Fenni wedi eu cynllunio – os yw’r tywydd ac amgylchiadau’n caniatau – ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau bysus. Bwriadwn gwblhau’r gwaith hyn erbyn 31 Mawrth 2022, ond rydym hefyd am gynnal astudiaeth Weltag 1 o holl ardal yr orsaf bws i’n helpu i gyflawni ein huchelgais hirdymor o ddarparu hwb trafnidiaeth newydd fydd yn gynaliadwy yn y dyfodol. Caiff manylion am hyn eu rhannu unwaith y cafodd yr astudiaeth ei gwblhau a’i asesu.
“Mae pwysigrwydd sicrhau gorsaf bws addas ar gyfer y dyfodol a hygyrch yn y Fenni yn ddi-gwestiwn a bydd y gwaith arfaethedig yn gwella profiad y rhai sy’n teithio ar fws i ac o’r orsaf bysus. Mae ein hargyfwng hinsawdd yn golygu fod angen i ni wneud popeth a fedrwn i annog pawb i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â cherdded a seiclo. Rwy’n hyderus y bydd y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl y dref.”