Mae arddangosfa am ddim yr Awyrlu Brenhinol ‘Cymru a Brwydr Prydain’ wedi cyrraedd adeilad hanesyddol Neuadd Sirol Trefynwy (o ddydd Gwener 26 Tachwedd 2021) ac mae’n dweud hanes aelodau’r lluoedd arfog o Gymru a gymerodd ran ym Mrwydr Prydain rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 1940, brwydr hollbwysig yn yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol dydd Mercher 1 Rhagfyr gan Gomodor yr Awyrlu Adrian Williams, gyda’r Arweinydd Sgwadron John Dunn. Roedd Chadeirydd Cyngor Sir Fynwy Mat Feakins, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy y Cyng. Lisa Dymock a chynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog a’r gwasanaethau argyfwng yn bresennol, ymhlith eraill hefyd yn bresennol.
Gwasanaethodd nifer fawr o ddynion a menywod lleol yn yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys John Bedford Kendal y gellir gweld ei stori yn yr arddangosfa. Roedd John yn beilot o Gas-gwent. Ar ôl ymuno â’r Awyrlu Brenhinol yn 1939, dechreuodd hedfan awyrennau Spitfire fel rhan o gyrchoedd y rhyfel ym mis Medi 1940. Cafodd ei saethu lawr y mis dilynol, gan gael ei anafu ar ôl i’w awyren lanio’n glep. Roedd yn ôl wrth ei waith o fewn mis yn helpu i amddiffyn y wlad rhag awyrennau ymladd ac awyrennau bomio y Nazïaid. Aeth ymlaen i wirfoddoli i helpu diogelu confois Arctig i gyflenwi Rwsia. Cafodd ei saethu lawr gan un o awyrennau bomio y gelyn ym mis Ebrill 1942, a bu’n farw’n drasig o anafiadau a gafodd pan fu’n rhaid iddo neidio allan o’i awyren. Mae stori John Bedford Kendal ymhlith y nifer fawr o straeon am ddewrder ac aberth a ddywedir yn ‘Cymru a Brwydr Prydain’.
Cafodd Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain ei chreu gan Gangen Hanesyddol yr Awyrlu Brenhinol (Dr Lynsey Shaw) ynghyd â Chomodor yr Awyrlu Williams, i goffau cyfraniad Cymru i fuddugoliaeth ym Mrwydr Prydain. Y bwriad oedd ei lansio yn 2020, ond bu’n rhaid gohirio hynny nifer o weithiau oherwydd y pandemig. Er fod 81 mlynedd bellach ers Brwydr Prydain, penderfynwyd symud ymlaen gyda’r lansiad a fwriadwyd i’r arddangosfa, yn arbennig gan na chafodd stori Cymru erioed ei dweud fel un stori gyflawn i gynulleidfa Gymreig.
Dywedodd y Cyng. Lisa Dymock, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n anrhydedd fawr i Neuadd Sirol Trefynwy gynnal yr arddangosfa deithiol hon. Rhaid byth anghofio dewrder ac aberth mawr holl bersonél y gwasanaeth. Roedd Brwydr Prydain yn un o gyfnodau hollbwysig yr Ail Ryfel Byd. Diolch i’r peilotiaid dewr, y criwiau daear a phawb a’u cefnogodd y cafodd Brwydr Prydain ei hennill ac y cafodd bygythiad goroesiad ei dynnu. Byddwn yn annog pobl o bob oed i ymweld â’r arddangosfa hon pan mae yn Nhrefynwy, mae’n ddiddorol tu hwnt a hefyd yn ingol. Hoffwn ddiolch i’r Arweinydd Sgwadron John Dunn a’r Awyrlu Brenhinol am ddod â’r arddangosfa i’n sir.”
Dywedodd Comodor yr Awyrlu Adrian Williams, a agorodd yr arddangosfa yn swyddogol: “Rwyf wrth fy modd, yn dilyn agoriad swyddogol arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain yng Nghaerdydd, fod yr arddangosfa yn awr yn mynd ar daith o amgylch Cymru, gan roi cyfle i bawb ei gweld. Rwy’n arbennig o falch ein bod wedi medru cysylltu gydag ysgolion ar draws Cymru fel y gall plant Cymru ganfod mwy, nid yn unig am un o frwydrau hollbwysig yr Ail Ryfel Byd, ond hefyd am gyfraniad eithriadol dynion a menywod o Gymru a wasanaethodd yn Rheolaeth Awyrennau Ymladd yr Awyrlu Brenhinol 81 mlynedd yn ôl.”
Dywedodd yr Arweinydd Sgwadron John Dunn, sydd â’r dasg o gydlynu a mynd â’r arddangosfa o amgylch Cymru: “Mae’r arddangosfa wedi ei threfnu’n llawn hyd ddiwedd 2021 ac rwy’n cael nifer fawr o geisiadau i’w chynnal yn 2022, gan amryw o amgueddfeydd awyr mawr i lawer o awdurdodau lleol. Cefais hyd yn oed gais i gynnal yr arddangosfa mewn canolfan siopa drefol. Mae’n profi i fod yn boblogaidd iawn.”
Gellir gweld arddangosfa ‘Cymru a Brwydr Prydain’ am ddim yn ystod oriau agor y Neuadd Sirol rhwng 11am a 4pm, bob dydd Llun, Mawrth, Gwener a Sadwrn tan 21 Rhagfyr.