Mae trefi a phentrefi Sir Fynwy yn paratoi ar gyfer y dathliadau y Nadolig hwn gan atgoffa pobl i siopa’n lleol. Caiff yr ymgyrch lwyddiannus barhaus hon i ‘ddod â’r hud yn ôl’ i’r stryd fawr yn Sir Fynwy ei chyflwyno ar y cyd gyda busnesau lleol, cynghorau tref, siambrau masnach, ysgolion, Cyngor Sir Fynwy ac Ymweld â Sir Fynwy.
Gall preswylwyr Brynbuga fwynhau noswaith siopa hwyr ddydd Iau 2 Rhagfyr a galw heibio i ganfod syniadau am anrhegion unigryw gan siopau annibynnol.
Bydd dathliadau Nadolig Cil-y-coed yn dechrau ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr pan all pobl leol fwynhau’r farchnad Nadolig, pantomeim a throi’r goleuadau ymlaen yn swyddogol gyda Marchnad Nadolig ychwanegol ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr.
Bydd hud ceirw yn dechrau yn y Fenni ar 8 Rhagfyr gyda busnesau Stryd Nevill yn agor yn hwyr nos Fercher 8 Rhagfyr – caiff siopwyr gyfle i gwrdd â’r ceirw hardd fydd ar y stryd a thynnu hunlun gyda’r carw goleuedig ysblennydd.
Mae Trefynwy yn cynnal noson siopa arbennig a drefnir gan Siambr Fasnach y Dref ddydd Iau 9 Rhagfyr gyda gweithgareddau’n canolbwyntio o amgylch Sgwâr Agincourt a Stryd yr Eglwys. Bydd adloniant byw gan Kitsch and Sync.
Ar ôl i’r pandemig atal siopa a dathliadau’r llynedd, cawn i gyd ein hatgoffa am bwysigrwydd siopa lleol i gefnogi ein busnesau annibynnol yn y cyfnod cyn y Nadolig. I annog siopwyr i ymweld â’r trefi, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi y bydd parcio am ddim ar benwythnosau yn holl feysydd parcio y Cyngor drwy gydol mis Rhagfyr, hyd at ac yn cynnwys Gŵyl San Steffan.
Cafodd llawer o’r gweithgareddau sydd ar y gweill a’r ymgyrch Siopa Lleol eu cefnogi gan Gronfa Busnes Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy’n anelu i helpu annog mwy o breswylwyr ac ymwelwyr i gefnogi busnesau lleol. Mae ymgyrch Siopa Lleol yn gweithio i ddod â hwyl yr ŵyl i’n stryd fawr gan hyrwyddo busnesau unigryw y sir, eu cynnyrch a gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Bydd llawer o fusnesau wedi colli’r fasnach hollbwysig cyn y Nadolig y llynedd oherwydd effaith y pandemig, ac felly mae siopa lleol, yn bwysicach nag erioed eleni. Gallwn i gyd helpu. Gellir prynu popeth sydd ei angen ar gyfer Nadolig gwych yma yn Sir Fynwy. Pan ddaw i anrhegion, gwn fod pob un o’n trefi a phentrefi yn cynnig llawer iawn o ysbrydoliaeth a dewis. Drwy siopa’n lleol, rydych hefyd yn rhoi’n ôl i’r gymuned ac yn helpu busnesau ein ffrindiau a’n cymdogion. Croesawn ymwelwyr i fwynhau diwrnod gwych yn Sir Fynwy hardd, mae cymaint ar gael.”
Mae’r bobl ieuengaf yn ein cymunedau wedi chwarae eu rhan i rannu’r hud. Cadwch olwg am y celfwaith bendigedig fydd yn dechrau ymddangos ar draws y sir a ddyluniwyd gan ein plant lleol talentog o ysgolion cynradd Llandogo a Kymin View. Dilynwch @MonmouthshireCC ar Facebook, Twitter neu Instagram i gael mwy o wybodaeth a chadw llygad ar dudalen Siopa Lleol ar monmouthshire.gov.uk i gael yr wybodaeth ddiweddaraf: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/siopa-yn-lleol-siopa-yn-sir-fynwy/
Mae ysbrydoliaeth siopa gwych ar gael yn https://www.visitmonmouthshire.com/cymraeg/