Mae Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Cyngor Sir Fynwy unwaith eto wedi ennill gwobr bwysig PawPrints Aur yr RSPCA yn eu Gwobrau PawPrints blynyddol. Lansiwyd cynllun gwobr PawPrints yn 2008 ac mae’n anelu i wobrwyo a hyrwyddo arfer da mewn llesiant anifeiliaid gan awdurdodau lleol a darparwyr tai yng Nghymru a Lloegr. Gwobrau eleni yw’r cyntaf ers 2019, oherwydd y pandemig.
Rhoddodd Cyngor Sir Fynwy gynnig am y wobr am y tro cyntaf yn 2020 ac ers hynny mae wedi ennill un wobr efydd, un wobr arian a naw PawPrints aur. Mae Gwobr PawPrints yn cydnabod pedwar maes o waith sy’n effeithio ar lesiant anifeiliaid – cynllunio wrth gefn, gwasanaethau cŵn strae, tai ac egwyddorion llesiant anifeiliaid. Sir Fynwy yw’r unig awdurdod yng Nghymru i ennill gwobr Aur yn y categori Cynllunio wrth Gefn ac mae’n un o ddim ond nifer fach yn y Deyrnas Unedig i gyd.
Mae’r wobr yn cydnabod fod yr awdurdod wedi ystyried llesiant anifeiliaid anwes o fewn eu cynlluniau wrth gefn – yn y broses gynllunio a hefyd mewn hyfforddiant ac ymarfer. Mae hefyd yn cydnabod y cyngor y mae’r awdurdod yn ei roi i berchnogion anifeiliaid anwes ar fod yn barod ar gyfer argyfwng.
Y targed ar gyfer y flwyddyn nesaf yw parhau i gadw’r safon aur a theimlai’r Tîm Cynllunio Argyfwng y dylai pawb wybod eu bod yn ystyried mae eu gwobr yw’r hufen ar y deisen.
Wrth ganmol eu gwaith rhagorol dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Llongyfarchiadau i’n Tîm Cynllunio Argyfwng am ennill y wobr hon. Mae’n gamp wych, nid yn lleiaf oherwydd yr heriau a ddaeth yn sgil COVID-19, ac mae’n wych gweld Sir Fynwy yn arwain y ffordd wrth weithredu llesiant anifeiliaid yn eu gweithdrefnau cynllunio.”
Dywedodd Billie-Jade Thomas, cynghorydd materion cyhoeddus RSPCA Cymru: “Mae RSPCA Cymru yn hynod falch unwaith eto i gydnabod ymdrechion gwych mesurau cynllunio wrth gefn Cyngor Sir Fynwy drwy ei gynllun PawPrints.
“Mae gan yr awdurdod lleol record falch o ystyried anifeiliaid anwes, perchnogion anifeiliaid anwes a materion llesiant anifeiliaid yn eu protocolau cynllunio argyfwng – a rydym yn falch i weithio’n agos gyda’r Cyngor ar y gwaith pwysig hwn.
“Drwy ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ymarferion byw a chefnogi sefydliadau gyda nifer fawr o anifeiliaid wrth lunio cynlluniau wrth gefn, rydym wrth ein bodd i gydnabod Sir Fynwy gyda gwobr aur unwaith eto.”