Mae aelodau Cabinet Sir Fynwy wedi cymeradwyo buddsoddiad yn Theatr y Borough yn y Fenni i sicrhau dyfodol y safle, sy’n gyfleuster poblogaidd iawn yn y dref. Bydd y cyngor sir yn cwrdd ar 23 Medi i ystyried yr argymhelliad, sy’n sicrhau y bydd y theatr yn cynnig lleoliad addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â’i wneud yn opsiwn deniadol ar gyfer grwpiau defnyddwyr a mynychwyr theatr presennol.
Gwneir llawer o ddefnydd o Theatr y Borough fel ased ddiwylliannol, gymunedol a dinesig ond mae angen buddsoddiad sylweddol os yw i wireddu ei botensial. Wedi’i leoli mewn adeilad eiconig gyda rhestriad Gradd II, mae’r theatr wedi hen ennill ei blwyf fel lleoliad proffil uchel ond mae’r strwythur, cynllun a systemau goleuo a gwresogi yn hen ffasiwn, ac nid yw cyfleusterau ar gyfer cwsmeriaid fel toiledau, y bar, y cyntedd a seddi yn cyrraedd safonau presennol. Nid oes defnydd digonol ar y safle, yn arbennig yn ystod y dydd ac mae’n wynebu mwy o gystadleuaeth gan theatrau a chanolfannau celfyddydol eraill lleol a rhanbarthol yn ogystal â bygythiad gostyngiad mewn cyllid sector cyhoeddus.
Nod y rhaglen buddsoddi yw sicrhau fod y theatr yn gyfleuster artistig proffesiynol a hygyrch sy’n rhoi ffocws diwylliannol cyffrous a realistig yng ngogledd sir Fynwy ac ymhellach i ffwrdd wrth ochr y llyfrgell a adnewyddwyd yn ddiweddar, gofod dysgu cymunedol a marchnad. Mae hefyd yn cydnabod y bydd adnewyddu yn galluogi tîm y theatr i adeiladu model busnes cynaliadwy.
Y rhagolwg gwariant ar gyfer yr holl brosiect yw £1,042,000 a chafodd £314,000 o’r swm – a gynigiwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac arian o gyllideb cyfalaf Sir Fynwy – ei gadarnhau eisoes. Yn ychwanegol, mae cyllid o £450,000 – o gyllidebau Llywodraeth Cymru a Trawsnewid Trefi a Mynediad i Bawb Sir Fynwy, i’w gadarnhau, gan adael bwlch o £278,000 i’w benderfynu.
Mewn cyfarfod arbennig ddydd Mercher 15 Medi rhwng y cyngor sir a Chyngor Tref y Fenni trafodwyd y posibilrwydd o gyllid pellach ar gyfer y prosiect. Cadarnhaodd cyngor y dref ei ddymuniad i helpu, gan gydnabod fodd bynnag fod angen iddo fod mewn sefyllfa ariannol glir i’w fforddio a bydd yn ystyried y mater yn ei Bwyllgor Polisi ac Adnoddau cyn gwneud penderfyniad.
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae gan Theatr y Borough hanes hir a balch o hyrwyddo’r celfyddydau yn Sir Fynwy ac mae’n cyflwyno ystod eang o adloniant yn rheolaidd ac yn mwynhau cefnogaeth dda a theyrngar gan y cyhoedd. Ein nod yw sicrhau y caiff y theatr ei adnewyddu fel ei fod yn parhau ar flaen y gad gyda darpariaeth celfyddydau am flynyddoedd lawer i ddod, gan weithredu fel canolbwynt diwylliannol i’r sir gyfan.”
Yn y cyfamser, gwahoddir y cyhoedd i gefnogi Theatr y Borough drwy fabwysiadu sedd neu wneud cyfraniad. Ychwanegodd y Cynghorydd Dymock: “Mae mabwysiadu sedd yn ffordd bersonol i ddangos cefnogaeth ar gyfer dyfodol cyffrous y theatr gydag opsiynau ar gael am chwech neu ddeng mlynedd. Gall fod yn ffordd wych i goffau cyfaill neu anwyliaid. Mae’r Borough hefyd yn croesawu cyfraniadau i helpu i ddod â’r adeilad rhestredig eiconig hwn lan i safonau theatr fodern.”
Mae manylion sut i fabwysiadu sedd neu wneud cyfraniad ar gael yn: http://alturl.com/axtrj