Heddiw, mae myfyrwyr Sir Fynwy yn derbyn eu canlyniadau TGAU terfynol. Ar ôl 18 mis o heriau digyffelyb, bydd myfyrwyr yn cymryd y cam nesaf ar eu taith addysgol. Mae diwedd addysg orfodol yn amser hanfodol i’n dysgwyr fyfyrio ar ble maen nhw eisiau mynd nesaf a’r llwybr y dylen nhw ei ddilyn; mae’r canlyniadau hyn a’r holl waith sydd wedi mynd i mewn iddynt, yn caniatáu iddynt wneud y dewis hwnnw. Os oes unrhyw ddysgwyr ar draws Sir Fynwy yn ystyried eu camau nesaf neu’n ansicr beth ddylai hynny fod, dylent siarad â’u hysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Addysg: “Rwyf am longyfarch pob un o’n dysgwyr heddiw wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau. Mae gweithio drwy eu harholiadau TGAU yn y cyfnod digynsail hwn wedi bod yn wahanol i unrhyw beth y gallai unrhyw un ohonom fod wedi’i ddychmygu, ac mae’r nerth a’r ymrwymiad y maen nhw wedi’u dangos i weithio mewn ffordd wahanol yn haeddu canmoliaeth enfawr. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i holl deuluoedd a gofalwyr y myfyrwyr am eu helpu i ymateb i heriau’r pandemig ac, wrth gwrs, hoffwn ddiolch i’n hysgolion am yr holl waith y maent wedi’i wneud yn y broses asesu newydd hon. Yn olaf, hoffwn ddweud wrth bawb sy’n cael eu canlyniadau; mwynhewch eich diwrnod a phob lwc yn eich ymdrechion yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Fynwy: “Dylai pob un o’n dysgwyr sy’n derbyn canlyniadau heddiw fod yn falch o’r hyn y maent wedi’u cyflawni. Maent wedi dilyn cyrsiau drwy bandemig, gan addasu i ddysgu o bell ac wynebu’r heriau ehangach a ddaeth yn sgil y pandemig. Wrth iddynt edrych i’w dyfodol a’r llwybrau y byddant yn eu dilyn, dymunaf bob llwyddiant iddynt. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff ein hysgolion am y ffordd y maent wedi cefnogi ein dysgwyr ac wedi symud i broses asesu gwbl newydd eleni.”