Disgwylir i’r gwaith ar safle Wyndcliff rhwng Tyndyrn a Chas-gwent ddod i ben. Bydd y cyfnod cau yn dod i ben a bydd ffordd yn ailagor erbyn diwedd heddiw (dydd Gwener 18fed Mehefin 2021). Mae hyn yn dilyn wythnosau o waith i sefydlogi’r clogwyn gerllaw’r ffordd.
Mae nifer o ddarnau gwaith o hyd y bydd angen eu cwblhau, a bydd angen i Gyngor Sir Fynwy ailosod goleuadau dwy ffordd dros dro am gyfnod byr er mwyn caniatáu ardal ddiogel i’r gweithwyr gwblhau’r gwaith hwn.
Roedd cynlluniau ar y gweill i gwblhau gwaith atgyweirio ar ran arall o’r banc ger Tyndyrn o dan y cyfnod cau presennol ond oherwydd materion ecolegol ni ellid dechrau ar y gwaith. Yn anffodus, bydd yn rhaid i weithwyr ddychwelyd i gwblhau’r gwaith hwn yn ddiweddarach ond y gobaith yw y gellir gwneud hyn heb gyfnod cau ymhellach.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Rydym yn falch o fod wedi cwblhau’r gwaith diogelwch hanfodol hwn a gallu ailagor y rhan bwysig hon o’n rhwydwaith ffyrdd. Hoffem ddiolch i drigolion a pherchnogion busnes am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.”