Gofynnir i drigolion Sir Fynwy roi eu barn i gam olaf ymgynghoriad sy’n ceisio gwella’r ffyrdd y mae pobl yn Sir Fynwy yn teithio o gwmpas yn y dyfodol. Bydd cam olaf yr ymgynghoriad Teithio Llesol yn helpu i bennu blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn seilwaith ffisegol ffyrdd a llwybrau sy’n addas ar gyfer beicio a cherdded yn ogystal â chyfleusterau cysylltiedig. Mae’r ymgynghoriad ar Deithio Llesol yn un o ofynion Llywodraeth Cymru o dan y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Roedd cam cyntaf yr ymgynghoriad, a lansiwyd yn 2020, yn ymgysylltu’n sylweddol â’r gymuned i nodi llwybrau a chyfleusterau i annog lefelau uwch o Deithio Llesol mewn bywydau bob dydd. Erbyn hyn, mae’r ymgynghoriad wedi llwyddo i gasglu ymatebion gan 2700 o bobl ac mae 370 o lwybrau wedi’u nodi i’w hystyried. Derbyniwyd dros 500 o sylwadau hefyd ar ffocws strategol Teithio Llesol yn Sir Fynwy. Mae’r holl awgrymiadau bellach wedi’u hasesu’n annibynnol i gynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol terfynol diwygiedig.
Gall preswylwyr nawr weld a rhoi adborth ar y mapiau terfynol, sydd ar wefan a noddwyd gan Lywodraeth Cymru o’r enw Common Place: https://mccactivetravelconsultation.commonplace.is/#. Oherwydd lefel y manylder ar y mapiau a ddarperir, awgrymir cyrchu’r wefan trwy liniadur, cyfrifiadur penddesg neu lechen i gael lefelau uwch o ryngweithio. Y wefan hon hefyd yw’r brif wefan ar gyfer ymgysylltu â’r unigolion hynny sy’n 12 oed a throsodd, gyda sesiynau penodol yn cael eu cynnal ar gyfer disgyblion oedran cynradd.
Er mwyn sicrhau sylw da i bob grŵp yn y gymuned, i’r rhai nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur, mae dulliau ymgysylltu amgen o gasglu ymatebion ar gael, a gellir eu gweld ar https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/active-travel-consultation-2/
Mae’r cyngor wedi gweithio’n galed dros y 12 mis diwethaf i gynyddu’r ffocws ar Deithio Llesol. Y nod yw annog y rhai sy’n gallu, i adael eu ceir gartref wrth deithio i’r gwaith, i siopau, i ysgolion, i fan hamdden neu i gyrraedd gorsaf drenau/bysiau. Nid yw Teithio Llesol yn ymwneud dim ond â cherdded a beicio ar gyfer hamdden ond gallai hefyd wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu rhwydweithiau llwybrau a ffyrdd presennol, ac mae’n gyfrannwr pwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng presennol – gan helpu i leihau allyriadau cerbydau. Mae hefyd yn fanteisiol o ran gwella lles corfforol a meddyliol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant Cymunedol a Datblygu Cymdeithasol, y Cynghorydd Sirol Lisa Dymock “Wrth i ni geisio cyflymu datgarboneiddio a chanolbwyntio ar wella ein hamgylchedd naturiol, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd mwy gwyrdd ac effeithlon o deithio o gwmpas. Rydym wedi dysgu llawer o’r pandemig a’r cyfyngiadau cloi blaenorol am sut mae lleihau’r llygredd, a achosir gan gerbydau a mathau eraill o drafnidiaeth, yn cael effaith gadarnhaol ar ein hinsawdd. Mae dyfodol y ffordd rydym yn gweithio ac yn byw hefyd yn golygu bod gennym fwy o gyfleoedd i wneud y gorau o deithio llesol, boed hynny’n defnyddio ein ceir yn llai neu’n beicio i leoedd gwahanol. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod gennym y seilwaith a’r polisïau i gefnogi’r nodau hyn ac mae angen pobl Sir Fynwy arnom i’n helpu i lunio’r penderfyniadau pwysig iawn hyn. Cymerwch yr amser i edrych ar y llwybrau a awgrymir a rhowch eich barn ar yr ymgynghoriad.”
Gofynnir i breswylwyr sydd ag unrhyw ymholiadau gysylltu naill ai â Sue Hughes, Swyddog Teithio Llesol neu Paul Sullivan Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a Theithio Llesol ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 31ain Awst 2021.