Fis diwethaf cafodd Cyfleoedd Chwarae Mynediad Agored newydd ar gyfer plant rhwng 5-11 oed eu cyflwyno ar draws y sir. Wedi’i drefnu gan MonLife, rhan o Gyngor Sir Fynwy, daeth â thimau ynghyd o ddatblygu chwaraeon, hamdden ac antur awyr agored i gynllunio rhaglen gydag amrywiaeth o weithgareddau, gydag asesiad risg wedi’i gynnal ar bob un ac yn dilyn canllawiau’r llywodraeth er mwyn cadw phlant a staff yn ddiogel. Cynigiwyd y Cyfle Chwarae Mynediad Agored am saith diwrnod ar hyd gwyliau’r Pasg, rhwng 10am-11.55am ac roedd ar gael i blant o bob rhan o Sir Fynwy.
Ar draws pedwar safle hamdden MonLife yn Sir Fynwy, gallodd plant fynychu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyl, y cyfan yn cael eu cyflwyno gan staff wedi’u hyfforddi. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys rocedi potel, milltir ddyddiol, helfa ysglyfaeth natur a gweithgareddau dawns. Roedd yr awyrgylch ym mhob safle yn llawn hwyl, gyda phlant yn mwynhau eu hunain. Cafodd y digwyddiadau effaith gadarnhaol ar rieni, plant a staff gan mai hwn oedd y cyfle cyntaf i deimlo rhyw fath o normalrwydd. “Rwy’n edrych ymlaen bob bore i ddod i’r chwarae mynediad agored, i weld fy ffrindiau ac i gymryd rhan mewn chwaraeon” a “Mae Chwarae Mynediad Agored wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn chwaraeon” ymhlith y sylwadau cadarnhaol a gafwyd gan y plant a gymerodd ran. Mewn rhai achosion, y gweithgareddau a gynhaliwyd yr wythnos hon oedd y cyfle cyntaf a gafodd plant i gysylltu gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel ers y Nadolig.
Rhoddodd y sesiynau Cyfleoedd Chwarae Mynediad Agored gynllun i rieni a gofalwyr yn y gymuned y gallent ymddiried arno a gallu ailgydio mewn rhyw fath o fywyd gwaith arferol. Roedd hefyd yn rhoi cyfle i staff ddychwelyd i’r gweithlu ac ailgysylltu gyda staff. “Mae Chwarae Mynediad Agored yn ddarpariaeth wych i gynnig bore o chwaraeon a gwahanol weithgareddau y gall plant gymryd rhan ynddynt gyda’i ffrindiau, a chael llawer iawn o hwyl yr un pryd,” meddai un o’r tîm hamdden.
I gael mwy o wybodaeth am y gweithgareddau sydd ar gael yng nghanolfannau hamdden Sir Fynwy ar hyn o bryd ewch i www.monlife.co.uk