Llun: Cynghorydd Mat Feakins
Yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cyngor Sir Fynwy ddydd Iau 13 Mai, cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Mat Feakins fydd Cadeirydd newydd y cyngor i wasanaethu am y deuddeg mis dilynol. Cafodd y Cynghorydd Feakins ei ethol yn dilyn ei enwebu gan y Cyng Peter Fox, yr Arweinydd sy’n ymadael.
Dywedodd y Cynghorydd Fox: “Mae’r Cyng Mat Feakins wedi profi ei hun yn aelod rhagorol o’r cyngor. Bu ei ddiddordeb brwd yng nghymuned Sir Fynwy a’i grebwyll busnes yn ased fawr i’r sir. Bu’n uchel ei barch ymhlith preswylwyr Sir Fynwy yn ystod ei swydd ddiweddar fel Maer Trefynwy. Mae Mat yn ddyn o lawer o ddoniau a phrofiad. Bydd yn lysgennad ardderchog i’r sir.”
Hwn fydd cyfnod cyntaf y Cynghorydd Feakins fel Cadeirydd yn dangos gwaith diflino o fewn cymuned Trefynwy. Gwasanaethodd Mat yn ddiweddar fel Maer Cyngor Tref Trefynwy a bu’n gynghorydd gweithgar am nifer o flynyddoedd, yn hyrwyddo hawliau preswylwyr a dilyn nodau ac amcanion busnesau lleol.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd y Cyng Feakins: “Rwy’n falch iawn i gael fy ethol yn gadeirydd ac rwy’n edrych ymlaen at y 12 mis nesaf pan y gobeithiaf y byddwn wedi mynd drwy waethaf y pandemig. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb a weithiodd yn ddiflino drwy gyfnod y cyfnod sylweddol hwn, o’r rhai yn y meysydd i’r rhai ar y rheng flaen feddygol, o’r rhai yn yr adran ailgylchu a gwastraff, mewn gofal cymdeithasol ac i’r tîm sy’n dosbarthu prydau ar glyd ar draws y sir. Ni fyddem wedi mynd drwy hyn heb ymroddiad tîm Cyngor Sir Fynwy.”
Wedi’i eni yng Nghaerfyrddin a’i addysgu yng Ngwlad yr Haf, bu Mat bob amser yn chwaraewr tîm, gan fwynhau’r XV cyntaf, XI cyntaf a’r sgwad sirol mewn athletau, gan ddychwelyd i’r fferm deuluol ger Trefynwy am ddeng mlynedd cyn gadael y wlad i ddilyn ei uchelgais. Yn un o arloeswyr cynharaf oll y rhyngrwyd, symudodd Mat i’r Caribî a sefydlu un o’r loteriau rhyngrwyd cyntaf yn y byd. Tra’r oedd yno, fe wnaeth sefydlu nifer o gwmnïau cysylltiedig i gynnwys porth talu ar-lein a banc alltraeth. Fe wnaeth wedyn ffeirio’r hinsawdd trofannol a bywyd ar ynys i fenter newydd yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol alltraeth yn ne Sbaen.
Gan ddychwelyd i Brydain am resymau teuluol, bu’n rhaid i Mat yn ymarferol ddechrau o’r newydd ac aeth ati’n gyflym i weithio fel labrwr ar safle adeiladu, gan gario brics a blociau. Gan arbed arian am nifer o flynyddoedd, hyfforddodd fel trydanwr a thyfodd fusnes contractio trydanol yn gyflym, a ledodd i ynni adnewyddadwy a dod yn brif gontractwr ar werth dros £70m o ddatblygiadau PV solar ar draws y Deyrnas Unedig, gan adeiladu dros 500,000 o baneli solar, sy’n parhau i ddarparu trydan i dros 50,000 o gartrefi.
Mae Mat yn parhau i ymwneud yn agos gydag ynni adnewyddadwy ac ers hynny mae wedi dychwelyd at ei wreiddiau mewn ffermio yn Sir Fynwy. Mae’n aelod o’r Sefydliad Ynni, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Cyfarwyddwyr.
Talodd arweinwyr grwpiau gwleidyddol y cyngor deyrnged i waith sylweddol y Cadeirydd, Cynghorydd Sheila Woodman, wrth ymadael ar ôl ei dwy flynedd yn y swydd. “Fe wnaeth y Cyng Woodhouse gadeirio’r cyngor drwy gyfnod digynsail y pandemig COVID a thrwy’r stormydd sydd wedi effeithio ar gymunedau Sir Fynwy, gan barhau i fod yn anhygoel o garedig a gofalgar a chefnogi eraill drwy rai cyfnodau anodd iawn,” meddai’r Cynghorydd Fox.
Elusen y Cyng Feakin am y flwyddyn fydd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog a’i Gaplan fydd yr Hybarch Cherry Vann, Esgob Mynwy. Cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Ann Webb fydd Dirprwy Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy.