Dug Caeredin 1921 – 2021
Gyda thristwch mawr y mae Ei Mawrhydi, Y Frenhines yn cyhoeddi marwolaeth ei gŵr annwyl, Ei Uchelder Brenhinol, Y Tywysog Philip, Dug Caeredin.
Bu farw Ei Uchelder Brenhinol yn heddychlon y bore yma yng Nghastell Windsor.
Gwneir cyhoeddiadau pellach maes o law.
Mae’r Teulu Brenhinol yn ymuno â phobl ledled y byd i alaru ar ei golled.
Dydd Gwener, 9fed Ebrill 2021