Skip to Main Content

Mae eitemau a gafoedd oes newydd yn siop ailddefnyddio Cyngor Sir Fynwy yn parhau i roi budd i gymunedau, er fod cyfyngiadau pandemig lefel 4 wedi gorfodi ei chau i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Mae’r siop yng Nghanolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu Llan-ffwyst fel arfer yn gwerthu eitemau tŷ diogel y gellir eu defnyddio a gyfrannwyd neu a gafodd eu hachub o sgipiau, yn cynnwys celfi pren, potiau gardd, addurniadau a bric-a-brac yn ogystal â darnau wedi eu harbed, beiciau ac offer chwaraeon a cherdd. Tra bod y cyfnod clo wedi parhau, mae staff wedi parhau i chwilio am gartrefi addas ar gyfer eitemau y gellir eu defnyddio.

Er enghraifft, mae nifer o safleoedd gofal wedi derbyn eitemau mewn cyflwr rhagorol a dderbyniwyd tebyg i gymhorthion symudedd, tra bod canolfan breswyl leol wedi derbyn nifer o eitemau retro bob dydd i’w defnyddio mewn sesiynau hel atgofion.

Yn ychwanegol diolch i help gan Rotary Trefynwy, mae’r siop wedi rhoi beiciau i elusen Unseen sy’n cefnogi goroeswyr caethwasiaeth fodern. Rhoddwyd sylw i’r beiciau yn rhaglen beilot Freewheel yr elusen sy’n dysgu sut i gynnal a chadw beiciau ac yn annog seiclo i helpu adferiad goroeswyr.

Mae beiciau plant wedi canfod cartrefi gyda theuluoedd mewn angen yn ardal y Fenni a chafodd eitemau fel pebyll eu cyfrannu drwy rwydweithiau lleol y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ganolfannau gwastraff ac ailgylchu y cyngor: “Fel arfer mae gan y siop dîm egnïol o staff a gwirfoddolwyr yn gwasanaethu cwsmeriaid ond mae cau dros dro yn ystod y cyfnod clo wedi rhoi cyfle i feddwl yn fwy mwy creadigol am ganfod derbynwyr addas ar gyfer rhai o’r eitemau a arbedwyd. Mae’r siop ailddefnyddio yn ymwneud â chreu cysylltiadau yn ein cymuned ac nid dim ond gwneud gwerthiannau.”

I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at Rebecca Blount, Swyddog Ailddefnyddio ac Ailgylchu Sir Fynwy – rebeccablount@monmouthshire.gov.uk