Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi lansiad pecyn Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd. Agorodd ceisiadau am y cynllun hwn am hanner dydd ar 13 Ionawr 2021 a byddant yn aros ar agor am bythefnos, neu hyd nes y bydd yr arian wedi’i ymrwymo’n llawn.
Mae’r ffrwd ariannu ddiweddaraf hon wedi’i hanelu’n benodol at fusnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, gan gynnwys busnesau sy’n cyflenwi’r sectorau hynny, sydd wedi profi gostyngiad o 60% neu fwy o’u trosiant o ganlyniad i’r cyfyngiadau a gyflwynwyd ar y 4ydd Rhagfyr 2020 hyd yr 22ain Ionawr 2021.
Mae’r gronfa Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd yn ategu mesurau ymateb COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru – gan gynnwys y grantiau Ardrethi Annomestig sydd hefyd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Sirol Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Byddwn yn annog holl fusnesau Sir Fynwy sy’n rhan o gylch gwaith y cynllun hwn – y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth – i wneud cais ar unwaith. Rhagwelir y bydd nifer fawr o fusnesau’n gwneud cais ac mae swm cyfyngedig o arian o fewn y cynllun hwn, felly mae amser yn brin – gwnewch gais nawr. Diolch byth, nid yw’r grant diweddaraf hwn yn atal busnesau cymwys yn y sector poblogaidd hwn rhag gwneud cais hefyd am grantiau Ardrethi Annomestig y Gronfa Busnesau Dan Gyfyngiadau. Mae busnesau lleol yn cael trafferth yn fwy nag erioed o’r blaen, ar ôl gorfod cau ar yr adeg brysuraf o’r flwyddyn, i lawer. Ni allaf bwysleisio’n ddigon cryf bwysigrwydd mynd ar-lein a chofrestru. Gallai’r grantiau hyn fod yn achubiaeth, yn sicr ar gyfer y dyfodol agos.”
Gall busnesau sy’n gymwys i gael grant Ardrethi Annomestig y Gronfa Busnesau Dan Gyfyngiadau (ac eithrio’r grant Dewisol) hefyd wneud cais am grant Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd. Mae rhagor o wybodaeth am grant Cymorth Benodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 a’i gwiriwr cymhwysedd ar gael yn: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/sectorspecificgrant/cy
Mae’r cynllun, yn wahanol i lawer o’r grantiau eraill, yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru. Argymhellir y dylai busnesau sy’n gwneud cais am y grant diweddaraf hwn hefyd ystyried y Cynllun Cadw Swyddi (a elwir hefyd yn Gynllun Ffyrlo) sydd bellach yn cynnwys mwy o weithwyr ac sydd wedi’i ymestyn i fis Ebrill 2021.