Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu argymhellion Adroddiad Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru ac yn neilltuol y newidiadau amlwg a gynigir ar gyfer gwelliannau i wasanaethau rheilffordd a bws fel amgennau hanfodol i ffordd liniaru’r M4, sydd wedi ei gwrthod yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyngor hefyd yn cefnogi’r mesurau budd cyflym a gynigir ar gyfer gwella Teithio Llesol a system docynnau integredig, yn ogystal â’r argymhellion tymor canol a thymor hirach ar gyfer gwella gorsafoedd a gwasanaethau bws y sir.
Bydd y cynnig ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus a hwylusir gan fynediad oddi ar yr M48 i Gyffordd Twnnel Hafren, ynghyd ag uwchraddio gorsaf Cas-gwent a gorsaf newydd ym Magwyr, yn cynnig amgen hyfyw a real fel dull o deithio yn hytrach na defnyddio car ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy.
Fodd bynnag byddai Cyngor Sir Fynwy hefyd yn hoffi i ystyriaeth gael ei roi i fuddion posibl ehangach mynediad arfaethedig yr M48 ar gyfer ardal Glannau Hafren, er enghraifft drwy ostwng lefelau traffig ar y B4245. Byddai’n hoffi gweld cynnal astudiaeth trafnidiaeth ar wahân ar gyfer yr ardal hon ar yr un pryd â’r asesiad a dyluniad amlinellol y gyffordd draffordd newydd.
Dywedodd Jane Pratt, Cynghorydd Sir ac Aelod o’r Cabinet: “Mae’r cyngor wedi ymwneud yn llawn â gwaith y comisiwn ac yn credu bod y gwelliannau trafnidiaeth a argymhellir yn yr adroddiad yn gyffrous iawn. Bu Grŵp Llywio Trafnidiaeth Strategol y cyngor yn trafod y syniad o welliannau i’n gwasanaethau bws a thrên ledled y sir am amser maith a hefyd bu Teithio Llesol wrth galon ein cynlluniau i annog preswylwyr i fynd ati i seiclo a cherdded fel rhan o deithio i’r gwaith ac i gyfleusterau lleol. Croesewir y cynlluniau blaengar hyn gan eu bod yn cefnogi heriau hinsawdd ac yn cynnig ffordd o fyw mwy iach ar gyfer ein cymuned. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a dod yn rhan o uned ddatblygu comisiwn Burns.”
DIWEDD