Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch i gyhoeddi y bydd yn arwain InFuSe, rhaglen miliynau o bunnau ym maes sgiliau sector cyhoeddus, sy’n anelu i feithrin heriau capasiti arloesedd a mynd i’r afael â heriau mewn cymdeithas. Yn dilyn penderfyniad mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Mercher 2 Rhagfyr 2020, bydd y cyngor yn awr yn dechrau cydweithio gyda’r naw awdurdod lleol arall ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Y Lab – Labordy Arloesedd Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Nesta i benderfynu rhaglen InFuSe (‘Innovative Future Services Public Sector Skills’).
Cynlluniwyd y rhaglen £5.6m ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i helpu meithrin sgiliau a gallu arloesedd, gan geisio datrys heriau go iawn cymdeithas, gan ymwreiddio diwylliant o weithio rhanbarthol drwyddi draw. Bydd InFuSe yn galluogi gweithredu syniadau newydd drwy weithio drwy broses arloesedd o greu, profion, gweithredu a chynyddu maint. Bydd y rhaglen tair blynedd yn seiliedig ar ddull gweithredu ‘dan arweiniad her’ a bydd yn dynodi dau faes thematig pwysig iawn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, er enghraifft edrych ar broblemau a chyfleoedd yn gysylltiedig gyda Datgarboneiddio neu Gydlyniaeth/Llesiant Cymunedol.
Cefnogir InFuSe gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop Blaenoriaeth 5 Capasiti Sefydliadol Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gyda £3.6m o gronfa’r ESF a £2m mewn da/amser swyddogion yn cael ei gyfateb gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac awdurdodau lleol. Cynlluniwyd InFuSe ar ddamcaniaeth ac ymarfer i gyflwyno swyddogion i brosesau a chysyniadau newydd. Bydd y rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar sut y gall sgiliau ac offer newydd a ffyrdd gwahanol o feddwl helpu i ddatrys heriau rhanbarthol a gaiff eu rhannu drwy gydweithredu. Gobeithir y bydd swyddogion yn datblygu offer a dulliau newydd y gellir eu defnyddio i wella darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer y bobl sy’n eu defnyddio a’u darparu. Cafodd InFuSe ei gynllunio hefyd i ategu Cronfa Her Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chaiff swyddogion eu hannog i gymhwyso eu dysgu i wneud cynigion ar y cyd am gyllid i gyfarch heriau rhanbarthol fydd hefyd yn helpu i ddatrys problemau lleol.
Disgwylir y bydd tua 120 o swyddogion yn ymuno â’r rhaglen gan greu gweision cyhoeddus wedi eu hyfforddi a’u darparu’n well a all ddatblygu eu gwybodaeth a’u hymarfer a mynd â sgiliau newydd yn ôl i’w sefydliadau eu hunain.
Yn dilyn y penderfyniad dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn hynod falch y bydd Cyngor Sir Fynwy yn arwain y cynllun newydd cyffrous hwn sy’n gobeithio adeiladu ar sgiliau rhai o weision cyhoeddus mwyaf ardderchog Cymru. Daw ar amser pan ydym angen y bobl orau oll i’n cynrychioli a gwneud penderfyniadau arloesol ac ystyriol wrth i ni wynebu’r heriau i ddod. Os yw eleni wedi dysgu unrhyw beth i ni, y ffaith ein bod yn gryfach wrth gydweithio yw hynny ac mae Cyngor Sir Fynwy yn hynod falch i weithio gyda sefydliadau blaenllaw i gyflwyno’r cynllun hwn yn y rhanbarth.”