Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Sir Fynwy yn ddiolchgar iawn i bobl ym mhob rhan o’u sir am eu caredigrwydd. Mae Apêl Dymuniadau Nadolig 2020 wedi codi dros £7,000 i helpu dod ag ychydig o hwyl yr ŵyl i blant a phobl ifanc bregus a rhai sy’n gadael gofal yn Sir Fynwy.
Er yr heriau a ddaeth yn sgil y pandemig, mae Apêl Dymuniadau Nadolig eleni unwaith wedi gweld ymateb rhagorol gan bobl garedig a hael ym mhob rhan o’r sir. Daeth cyfraniadau gan breswylwyr, cynghorau cymuned, cynghorwyr a staff Sir Fynwy, Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy a Western Power (Swales) drwy gais penodol am gyllid drwy eu hapêl ‘We’re In This Together’.
Bydd y cyfraniadau caredig yn ei gwneud yn bosibl i brynu cardiau rhodd a thalebau ar gyfer 285 o blant a phobl ifanc ar draws y sir – gan helpu i ddod ag ychydig o hwyl yr ŵyl i’r rhai sydd fwyaf ei angen. Caiff yr holl gardiau rhodd a thalebau hyn eu dosbarthu gan dîm gwaith cymdeithasol prysur iawn yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae apêl eleni yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn 2019 pan gafodd dwsinau o deganau, nwyddau ymolchi a rhoddion eu cyfrannu gan sefydliadau a phreswylwyr. Bu’n rhaid i’r tîm redeg yr apêl yn wahanol eleni oherwydd y pandemig a phenderfynwyd na fyddai cyfraniadau o anrhegion yn addas nac yn briodol eleni.
Roedd Gwasanaethau Plant hefyd yn hynod falch i dderbyn cefnogaeth y gymuned drwy gyfraniadau bwyd i baratoi 100 o hamperau Nadolig ar gyfer y teuluoedd sydd fwyaf mewn angen. Cafwyd cyfraniadau gan fanciau bwyd Cil-y-coed a’r Fenni, Ysgol Gynradd Overmonnow, Eglwys Gymunedol Llanfaches, staff gwaith cymdeithasol ac Asda yng Nghil-y-coed ddewis eang o eitemau ar gyfer hamperau Nadolig arbennig, a gafodd wedyn eu dosbarthu gan wirfoddolwyr Bridges.
Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Bu’r flwyddyn hon yn heriol ac eto nid yw hynny wedi rhwystro pobl Sir Fynwy rhag cefnogi achos mor wych. Mae’r rhoddion gwych hyn adeg y Nadolig yn dangos fod pobl yn gofalu am ei gilydd ac yn wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd bregus a phobl ifanc sy’n gadael gofal sydd fwyaf ei angen. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, ac ar ran Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, i ddweud mor anhygoel o falch yr ydym am y gefnogaeth wych a gawsom ac i ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Nadolig Llawen i bawb a chadwch yn ddiogel.”