Skip to Main Content

Caiff busnesau y mae’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith ar 4 Rhagfyr gan Lywodraeth Cymru i helpu rheoli lledaeniad COVID-19 wedi effeithio arnynt eu hannog i edrych ar y cynllun grant diweddaraf a gyhoeddwyd. Cynlluniwyd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a lansiwyd ddydd Mercher 16 Rhagfyr ac a weinyddir gan Gyngor Sir Fynwy i gefnogi busnesau drwy roi llif arian a’u helpu i oroesi’r cyfnod heriol hwn. Mae’r grant yn anelu i ategu cynlluniau eraill a gyhoeddwyd yn flaenorol i gefnogi busnesau, sefydliadau elusennol a mentrau cymdeithasol (busnesau sy’n ailfuddsoddi unrhyw elw ar gyfer diben cymdeithasol, megis budd cymuned leol).

Mae cyrraedd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn cynnwys busnesau lletygarwch, y mae’r mesurau diweddaraf wedi effeithio’n sylweddol arnynt. Mae hyn yn cynnwys tafarndai, bwytai, caffes, bariau, bariau gwin, gwestai, sinemâu, theatrau, safleoedd cerddoriaeth a mannau chwarae awyr agored. Mae hefyd yn cefnogi’r rhai sydd yn y cadwyni cyflenwi ar gyfer busnesau lletygarwch, yn ogystal â thwristiaeth a hamdden, a’u cadwyni cyflenwi.

Mae’r gronfa yn cynnwys dau grant ar wahân: Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a’r Grant Dewisol i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Ni all busnesau wneud cais am y ddau grant. Os oes gan fusnes rif ardrethol, dylent wneud cais am y Grant Ardrethi Annomestig, tra gall rhai heb rif ardrethol ac nad ydynt yn talu ardrethi busnes wneud cais am y Grant Dewisol.

Os yw busnes lletygarwch eisoes wedi derbyn grant Ardrethi Annomestig dan y gronfa busnes Cyfnod Clo Byr diweddar, nid oes angen iddynt wneud cais am y grant hwn. Caiff taliad ei wneud yn awtomatig yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd yn eu cais cyfnod clo byr gwreiddiol.

Fodd bynnag, ar gyfer busnesau na wnaeth dderbyn y grant hwn mae’n hanfodol eu bod yn cofrestru, gan na chaiff taliad ei wneud yn awtomatig. Gellir gwneud hyn drwy www.monmouthshire.gov.uk/restrictions-business-fund. Bydd angen i fusnesau lenwi ffurflen gais fer. Bydd angen i fusnesau lletygarwch gadarnhau y cawsant eu gorfodi i gau a bydd angen i fusnesau twristiaeth, hamdden a manwerthu roi tystiolaeth (ar sail hunanddatgan) fod trosiant wedi gostwng gan 40% neu fwy fel canlyniad i’r cyfyngiadau newydd.

“Sylweddolwn y pwysau enfawr a roddodd y set ddiweddaraf o gyfyngiadau ar gynifer o fusnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Sir Fynwy oedd eisoes yn ei chael yn anodd oherwydd yr heriau ariannol llethol a gyflwynodd 2020,” meddai’r Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy. “Bydd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn achubiaeth i ystod eang o fusnesau ar adeg pan maent un ai’n methu masnachu neu pan fu gostyngiad difrifol yn eu hincwm. Er y bydd y busnesau cymwys hynny a dderbyniodd grant Cyfnod Clo Byr yn derbyn y grant diweddaraf hwn yn awtomatig, mae’n rhaid i’r rhai na wnaeth hynny gofrestru neu byddant yn colli mas. Byddwn yn gofyn i fusnesau sy’n credu y medrant fod o fewn cylch gorchwyl y gronfa hon i ymweld â’n gwefan a gwneud cais ar unwaith.”

Mae Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn cynnig dwy lefel o gymorth yn dibennu ar werth ardrethol y busnes: £3,000 (ar gyfer rhai gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai) neu £5,000 (ar gyfer busnesau gyda gwerth ardrethol o £12,001 – £150,000).

Gall busnesau nad ydynt yn y system Ardrethi Busnes wneud cais am Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau o £2,000. Mae hyn er mwyn cynorthwyo busnesau a gafodd eu gorfodi i gau, neu y bu’n ofynnol iddynt gau, fel canlyniad i’r cyfyngiadau cenedlaethol a gafodd eu rhoi ar waith ar gyfer busnesau lletygarwch. Mae hefyd yn weithredol ar gyfer y rhai sy’n amcangyfrif y bydd y cyfyngiadau diweddaraf yn arwain at ostyngiad o leiaf 40% yn eu trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o gymharu gyda mis Rhagfyr 2019 (neu drosiant mis Medi 2020 os nad oeddent yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019).

Dylid nodi y bydd y broses gais yn fyw o 10.00 y bore ar 16 Rhagfyr 2020

Mae mwy o wybodaeth am y grantiau Ardrethi Annomestig a’r grantiau Dewisol ar gael yn: www.monmouthshire.gov.uk/restrictions-business-fund Caiff pob cais ei brosesu a’i dalu cyn gynted ag sy’n bosibl, gan ganiatáu ar gyfer cyfnod gwyliau y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.