Mae siopwyr Sir Fynwy yn cael eu hannog i gefnogi eu busnesau lleol, gyda chynnig i barcio am ddim wrth i nesáu at y Nadolig.
Unwaith eto, mae’r cyngor wedi cyhoeddi y bydd yn darparu parcio am ddim ar benwythnosau ym mhob maes parcio sy’n eiddo i’r Cyngor o ddydd Sadwrn 5ed Rhagfyr tan, a gan gynnwys, Gŵyl San Steffan. Ewch lawr i’ch stryd fawr leol er mwyn manteisio ar yr amrywiaeth wych o fusnesau lleol sy’n gwerthu popeth o roddion cynnyrch â llaw i gynnyrch lleol, oll mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr. Gobeithir y bydd y cynnig o barcio am ddim yn y tair tref (Y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy) yn annog pawb i siopa’n lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y meysydd parcio: “Rydym yn falch unwaith eto o gynnig parcio am ddim ar benwythnosau i’n trigolion, yn enwedig gyda’r heriau a wynebwyd oherwydd pandemig COVID-19. Dyma’r cyfle perffaith i ymweld â’ch manwerthwyr lleol yn ddiogel ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fyddwch yn synnu at yr holl fargeinion gwych a’r syniadau am anrhegion unigryw y gallwch ddod o hyd iddynt ar garreg eich drws. Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i gefnogi eich ffrindiau a’ch cymdogion sy’n rhedeg busnesau ar draws y sir.”