Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch i gyhoeddi fod mwy o atyniadau a gofodau agored y sir wedi ennill Gwobrau’r Faner Werdd eleni. Mae’r gwobrau, a roddir gan elusen amgylcheddol flaenllaw Cadwch Gymru’n Daclus, yn rhoi cydnabyddiaeth i safleoedd sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol a dangos ymrwymiad parhaus i ddarparu gofodau gwyrdd ansawdd gwych. Caiff Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ei chynnwys am y tro cyntaf eleni, ac mae tri o safleoedd y sir yn dathlu llwyddiant unwaith eto eleni: Hen Orsaf Tyndyrn (enillwyr y wobr ers 2009), Parc Gwledig Castell Cil-y-coed (ers 2013) a Dolydd y Castell, y Fenni (ers 2014).
Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn ennill y wobr yn haeddiannol iawn am y tro cyntaf. Mae’r gamlas yn llifo drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan droelli 35 milltir o Aberhonddu i lawr i’r de i Fasin Pont-y-Moel. Mae’r ddyfrffordd dawel hon, gydag ychydig iawn o lociau, yn boblogaidd gyda rhai sy’n dechrau arni ym myd cychod ac yn cynnig golygfeydd mynyddig godidog ac awyr nos ymhlith y tywyllaf ym Mhrydain.
Mae parciau Sir Fynwy hefyd yn boblogaidd iawn gyda phreswylwyr ac ymwelwyr ac wedi ennill nifer o wobrau mewn blynyddoedd diweddar. Mae Hen Orsaf Tyndyrn yn atyniad poblogaidd mewn ardal goediog hardd yn ymyl yr Afon Gwy a chafodd ei disgrifio fel gem cudd. Mae castell canol-oesol godidog Cil-y-coed mewn 55 erw o barc gwledig hardd ac yn llecyn delfrydol ar gyfer picnic a mynd am dro gyda muriau’r castell yn y cefndir, gyda byrddau picnic a barbeciws.
Mae Dolydd y Castell y Fenni ar lannau’r Afon Wysg yn lleoliad heddychlon yn agos iawn at ganol y dref ac yma y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cylch yn llwyddiannus iawn 2016.
Cafodd wyth lleoliad arall ar draws y sir gydnabyddiaeth arbennig gyda Gwobr Gymunedol: Parc Bailey yn y Fenni, Coetir Crug, Dol Crug, Crucornau, Gardd Gymunedol Goetre, Perllan Gymunedol Laurie Jones yn y Fenni, y Cae Ŷd ym Mhorthysgewin a Pharc Mardy yn y Fenni.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Richard John, Aelod Cabinet dros Ardaloedd Gwledig: “Rwyf mor falch fod Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd eleni. Mae’n rhan wefreiddiol o’n treftadaeth ddiwydiannol ac yn un o lawer o lecynnau hardd yn y sir.
“Mae hefyd yn cynhesu’r galon i weld gwaith caled ac ymroddiad y llu o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy’n gofalu am y gofodau gwyrdd gwych hyn yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol. Ar ran fy nghydweithwyr a finnau, hoffwn fynegi ein diolch diffuant iddynt am eu gwaith gwerthfawr,” ychwanegodd y Cynghorydd John.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Paul Jordan, aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Atyniadau: “Bu’n flwyddyn anodd i lawer oherwydd y pandemig a gellid dweud y bu’n gofodau agored yn bwysicach nag erioed i breswylwyr. Mae’n wych fod ein hatyniadau unwaith eto wedi ennill Gwobrau’r Faner Werdd. Mae’r Hen Orsaf, Castell Cil-y-coed a’i barc gwledig, ymysg y mannau y mae pobl wrth eu bodd yn ymweld â nhw. Rwy’n neilltuol o falch fod y gwobrau yn cydnabod ymroddiad anhygoel a rôl gwirfoddolwyr ym mhob safle.”
Derbyniodd 224 parc a gofod gwyrdd ar draws y wlad Wobrau’r Faner Werdd a Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.
Cyflwynir rhaglen Gwobrau’r Faner Werdd gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rhoddodd arbenigwyr annibynnol ar ofodau gwyrdd eu hamser yn wirfoddol ddechrau’r hydref i feirniadu y safleoedd a ymgeisiodd ar wyth maen prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol ac ymgyfraniad y gymuned.
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobrau’r Faner Werdd gyda Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae’r pandemig wedi dangos yn union pa mor bwysig yw parciau a gofodau gwyrdd ansawdd uchel i’n cymunedau. I lawer ohonom, buont yn hafan ar garreg ein drws, gan fod o fudd i’n hiechyd a’n lles.
“Mae’r 224 baner a roddwyd eleni yn dyst o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cadw safonau ardderchog yn yr amgylchiadau anoddaf. Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt am eu hymroddiad rhagorol.”
Mae rhestr lawn o enillwyr gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Cymru’n Daclus
I gael mwy o wybodaeth ar y llu o atyniadau a mannau i ymweld â nhw yn Sir Fynwy edrychwch ar: Ymweld â Sir Fynwy https://www.visitmonmouthshire.com/
DIWEDD
Nodiadau i’r Golygydd
1. Os hoffech fwy o ffotograffau, cysylltwch os gwelwch yn dda â communications@monmouthshire.gov.uk
- Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen amgylcheddol gofrestredig sy’n gweithio i ddiogelu amgylchedd Cymru yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan: www.keepwalestidy.cymru
- Mae Gwobrau’r Faner Werdd yn cydnabod parciau sydd wedi dangos safonau uchel Gwobr y Faner Werdd. Rhoddir pwyslais hefyd ar ymgyfraniad y gymuned leol yng ngofal parhaus a hirdymor y parc.
- Cafodd partneriaeth ar draws y Deyrnas Unedig dan arweiniad Keep Britain Tidy y drwydded i redeg cynllun Gwobrau’r Faner Werdd tan fis Medi 2022. Bydd Keep Britain Tidy yng ngofal y cynllun cyffredinol dan drwydded gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) a bydd yn parhau i fod yng ngofal gweithgareddau dydd i ddydd yn Lloegr, gyda’i chwaer elusennau mewn gofal yn y cenhedloedd eraill Cadwch Cymru’n Daclus, Keep Northern Ireland Beautiful a Keep Scotland Beautiful.
- Mae mwy o wybodaeth am Wobrau’r Faner Werdd yng Nghymru ar gael yn www.keepwalestidy.cymru/greenflag