Yn dilyn y cyfnod clo yng Nghaerffili, ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy a oedd ar y rhestr warchod cyn 16 Awst ac sydd felly’n parhau ar y Rhestr Warchod Cleifion, nid oes newid i’r cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno gwarchod ar hyn o bryd. Byddant yn parhau i gadw golwg ofalus ar y sefyllfa a byddant yn ysgrifennu’n uniongyrchol at bobl ar y rhestr yn Sir Fynwy os yw hyn yn newid.
Yn y cyfamser dylai’r rhai oedd yn flaenorol ar y rhestr warchod ystyried y cyngor a gawsant ar sut i gadw’n ddiogel:
– Cadw cysylltiadau tu allan i’r cartref i isafswm ac osgoi pob sefyllfa naill ai dan do neu tu allan lle na fedrir cadw pellter ffisegol o 2m o’r rhai o’r tu allan i’ch cartref
– Defnyddio slotiau siopa blaenoriaeth ar gyfer archfarchnadoedd neu siopa ar adegau tawelach o’r dydd
– Golchi eich dwylo yn rheolaidd gyda dŵr a sebon am 20 eiliad a defnyddio hylif diheintio dwylo lle nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael
– Osgoi cyffwrdd wynebau pethau a gafodd eu cyffwrdd gan bobl eraill.
I gael mwy o gwybodaeth edrychwch ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar warchod a diogelu pobl ac i weld cwestiynau cyffredin ewch i