Er bod nifer yr achosion Covid-19 wedi lleihau’n fawr, gwyddom nad yw’r feirws wedi cilio a heb i ni bwyllo, yn enwedig o ran cadw at ymbellhau cymdeithasol, rydym mewn perygl o ddioddef rhagor o achosion ac efallai rhagor o farwolaethau. Gallwn weld eisoes, er bod rhai trigolion yn teimlo’n hyderus i ddychwelyd i’n strydoedd siopa, nad yw llawer o rai eraill. Oni allwn greu amgylcheddau siopa diogel, ni fydd llawer o’n siopau, yn enwedig mewn trefi llai, yn goroesi.
Ar hyn o bryd, mae nifer y siopwyr yn Stryd y Bont ym Mrynbuga dal yn isel. Mae gwaith i’w wneud i alluogi siopwyr ac ymwelwyr i deimlo’n ddiogel yn dychwelyd i’r siopau er mwyn adfywio busnesau lleol. Gallai Brynbuga fod mewn perygl o ddirywiad mawr pe bai llawer o’i fusnesau gwerthfawr yn methu.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn credu’n gryf mai ei ddyletswydd yw helpu i ddarparu amgylchedd diogel i siopwyr – ac mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cadw at ymbellhau cymdeithasol yn ddiogel. P’un a yw’r canllaw yn aros ar bellter 2 fetr, neu’n lleihau i 1 metr, mae ymbellhau cymdeithasol yn her yn Stryd y Bont.
Cafodd system cerddwyr unffordd, sy’n gofyn am groesfan newydd i gerddwyr, ei gwrthod. Ar wahân i faterion technegol, rhagwelwyd y byddai llawer o bobl, sy’n dymuno defnyddio siopau ar un ochr i’r stryd, yn anwybyddu’r gofyniad i groesi’r ffordd ddwywaith i ddychwelyd i’r maes parcio.
“Nid yw gwneud dim yn opsiwn ar hyn o bryd,” meddai’r Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy. “Roedd y Cyngor Tref, a oedd yn dymuno osgoi system unffordd, yn cynnig goleuadau traffig ond y dewis a ffafriwyd gan y cyngor oedd ar gyfer system draffig unffordd dros dro. Roedd cau Stryd y Bont i draffig ar gyfer prif waith nwy yn 2018 a’r gwyriad dwyffordd wedyn, yn gweithio’n llawer gwell na’r disgwyl ac er y deellir na fydd llawer o drigolion lleol yn dymuno rhoi cynnig ar y system unffordd hon, mae’n hanfodol os ydym am gyflawni pellter cymdeithasol ar hyd Stryd y Bont.
“Mae’r hyn a gynigir yn awr yn rhan yn unig o’r gwyriadau hynny a oedd yn effeithiol ddwy flynedd yn ôl. Bydd y system unffordd yn cael ei gosod a’i monitro’n ofalus gan swyddogion a gall addasiadau gael eu gwneud, os tybir bod hynny’n angenrheidiol ac yn briodol,” eglurodd y Cynghorydd Greenland. “Rydym yn agored i gael adborth, y gellir ei gyflwyno drwy wefan y Cyngor, a byddwn yn monitro’r mesurau’n ofalus.”
Fel rhan o’r mesurau hyn, mae’r gwaharddiad parcio ger y siop sglodion yn parhau ar waith ac mae’r cyngor yn ceisio gweithio gyda’r heddlu i orfodi’r cyfyngiadau HGV cyfredol.