I’w ryddhau ar unwaith
Mae Cyngor Sir Fynwy yn lansio ymgynghoriad tri mis ac yn gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud. Mae’r ymgynghoriad ar Deithio Llesol yn un o ofynion Llywodraeth Cymru o dan y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu cynigion drafft i annog mwy o feicio a cherdded.
Datblygwyd mapiau drafft (a elwir yn Fapiau Rhwydwaith Integredig) sy’n dangos ffyrdd o wella a awgrymir ar gyfer aneddiadau yn Sir Fynwy. Mae’r rhain ar gael i’w gweld ar-lein o Awst 1 af tan Hydref 31ain, 2020.
Mae gwasanaeth MonLife o fewn y Cyngor wedi gweithio’n galed dros y chwe mis diwethaf i gynyddu’r ffocws ar Deithio Llesol. Y nod yw annog y rhai sy’n gallu, i adael eu ceir gartref wrth deithio i’r gwaith, i siopau, i ysgolion, i fan hamdden neu i gyrraedd gorsaf drenau. Nid yw Teithio Llesol yn ymwneud â cherdded a beicio ar gyfer hamdden ond gallai hefyd wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu rhwydweithiau llwybrau a ffyrdd presennol, ac mae’n gyfrannwr pwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng presennol – gan helpu i leihau allyriadau cerbydau. Mae hefyd yn fanteisiol o ran gwella lles corfforol a meddyliol.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfoethogi ein trefi a’n pentrefi yn yr hirdymor, ond mae angen i drigolion, busnesau a phartneriaid gymryd rhan yn y broses ymgynghori a rhoi gwybod i ni beth yw eu barn er mwyn symud ymlaen,” meddai’r Cynghorydd Richard John, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Deithio Llesol. “Mae’r chwe mis diwethaf wedi gweld llawer iawn o waith wrth ymgeisio am gyllid a dadansoddi’r rhwydwaith, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n ysbrydoli ac yn cyseinio â’r trigolion. Maent yn cynnig cyfle gwirioneddol i adeiladu gwell dyfodol i Sir Fynwy, ei thrigolion a’i hamgylchedd.”
“Rydym yn gwerthfawrogi barn pob rhan o’r gymuned, a dweud y gwir mae’n hanfodol nid yn unig i symud ymlaen gyda’r cynlluniau gorau posibl, ond i gael ein hystyried ar gyfer rhagor o gyllid yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phob ysgol gynradd ac uwchradd o fis Medi i roi’r cyfle i blant a phobl ifanc rhoi adborth,” meddai’r Cynghorydd John.
Bydd yr ymgynghoriad ar Deithio Llesol yn arddangos mapiau digidol ac yn awgrymu blaenoriaethau clir i wella’r seilwaith ar gyfer y dyfodol. Mae hwn yn gyfle i blant, pobl ifanc, oedolion a busnesau i roi adborth ar y blaenoriaethau drafft, llwybrau awgrymedig ac i nodi’r cyfleusterau sydd eu hangen. Oherwydd y cyfyngiadau sydd mewn lle o ganlyniad i COVID-19, mae ymgynghori digidol yn rhan allweddol o’r broses. Bydd gweminarau yn ogystal â digwyddiadau wyneb yn wyneb gydag ymbellhau cymdeithasol.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, caiff yr holl ymatebion eu dadansoddi a chaiff y llwybrau a awgrymwyd eu hasesu. Bydd hyn yn galluogi Cyngor Sir Fynwy i ddatblygu rhwydwaith mwy cydlynus o fewn trefi a phentrefi’r sir er mwyn annog mwy o gerdded a beicio yn y dyfodol.
Mae manylion am y gweminarau, y mapiau rhyngweithiol ac arolygon preswylwyr i’w gweld ar wefan y Cyngor: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/active-travel-consultation-2/.