Datganiad Fforwm Lleol Cymru Gydnerth (FfLlCG) Gwent ar niferoedd mewn gwasanaethau CLADDU
Heddiw (01/07/20), cytunodd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent, gan gynnwys y pump cyngor, i gynyddu nifer y galarwyr a ganiateir i fynychu angladdau mewn mynwentydd yn y pum awdurdod lleol yng Ngwent, i 20. Bydd hyn yn dod i rym 02/07/20.
Oherwydd pandemig parhaus Covid-19 ac yn unol â chyfyngiadau’r Llywodraeth, mae’n dal yn angenrheidiol cyfyngu ar nifer y bobl mewn unrhyw fan cyhoeddus a sicrhau’r ymbellhau cymdeithasol sydd ei angen. Felly, ni fydd newid o ran nifer y galarwyr a ganiateir i fynychu amlosgiadau yn Amlosgfa Gwent, sef 10 person.
Fodd bynnag, mae pob cyngor yn cydnabod ac yn deall yn llawn pa mor anodd y gall y cyfyngiadau hyn fod i deulu a chyfeillion yr ymadawedig.
Mae lefel y galw a’r risg gysylltiedig yn y safleoedd hyn wedi bod yn cael ei hadolygu’n gyson a llwyddwyd i liniaru’r cyfyngiadau cyn gynted ag y barnwyd ei bod yn ddiogel ac yn briodol gwneud hynny i’r cyhoedd ac i’r staff.
Mae’r holl benderfyniadau’n cael eu gwneud yn dilyn adolygiad o asesiadau risg sy’n cynnwys ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y gallu i gynnal a gorfodi’r gofynion ymbellhau cymdeithasol dau fetr yn ddiogel, a’r effaith y byddai cynnydd mewn presenoldeb yn ei chael ar iechyd, diogelwch a lles parhaus pawb a oedd yn bresennol, y rhai oedd yn rheoli ac yn gweinyddu’r angladd.
Mae’r nifer cyfredol yn cefnogi’r gwaith o amddiffyn y cyhoedd, yr ymdrech barhaus i arafu lledaeniad y feirws, ac yn sicrhau y gall gwasanaethau profedigaeth barhau i reoli angladd ddiogel ac urddasol.
Roedd y penderfyniad gwreiddiol i gyfyngu nifer y galarwyr yn un na wnaed yn ysgafn. Mae parch i’r ymadawedig a thosturi at y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o’n penderfyniadau, ond rhaid i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, staff yr angladd a’r fynwent fod yn brif flaenoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd y cyhoedd parhaus hwn.
Bydd partneriaid Fforwm Lleol Gydnerth Gwent yn parhau i adolygu’r mater hwn tra bod pandemig Covid-19 yn dal i gael effaith ar ardal Gwent.