Mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno gwasanaeth Gofyn a Chasglu newydd ar gyfer llyfrau llyfrgell mewn ymateb i gyfyngiadau a achoswyd gan y pandemig coronafeirws. Gall cwsmeriaid edrych ar-lein drwy gatalog y gwasanaeth llyfrgell ac wedyn ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy i ddewis eu llyfrau a threfnu amser i’w casglu. Bydd y casgliadau ar gael i ddechrau o Hybiau Cymunedol Trefynwy a Chas-gwent.
Bydd staff yn gosod llyfrau a ddychwelir dan gwarantin am 72 awr i atal lledaeniad coronafeirws sy’n golygu y gall y dewis fod yn fwy cyfyngedig nag arfer. Disgwylir i’r galw fod yn uchel ac os nad yw’r llyfrau a ddewisodd pobl ar gael, bydd tîm llyfrgell y cyngor yn awgrymu llyfrau eraill o’r un genre.
Ar gyfer y rhai sy’n amharod i deithio neu’n methu gwneud hynny, mae gwasanaethau digidol yr hybiau yn parhau i fod ar gael. Mae E-lyfrau a llyfrau sain yn rhad ac am ddim i aelodau llyfrgell drwy ap Borrowbox ac mae’r apiau RB Digital yn galluogi lawrlwytho dewis eang o gylchgronau yn rhad ac am ddim.
Wrth siarad am lansiad y gwasanaeth dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, Aelod Cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol:
“Mae ymgolli mewn llyfr yn ffordd wych o ddianc rhag holl bwysau a straen y sefyllfa bresennol. I blant, mae darllen yn hanfodol ar gyfer parhau eu datblygiad a’u haddysg – ac yn ffordd wych i’w cadw’n ddiddan.
“Yn ystod y cyfyngiadau symud cafodd y staff fyddai fel arfer yn rhedeg y gwasanaeth llyfrgell eu hadleoli, gan helpu gydag ymateb Cyngor Sir Fynwy i COVID-19, drwy gefnogi pobl fregus a sicrhau y caiff grantiau eu talu’n brydlon i fusnesau lleol gan barhau i ddarparu dweud straeon, cystadlaethau straeon byr a gweithgareddau eraill ar-lein. I lawer o bobl ni all dim ddisodli mwynhad darllen llyfr rhwng dau glawr yn eu dwylo ac mae staff y llyfrgell yn hynod falch y gallant unwaith eto ddarparu gwasanaeth benthyca llyfrau ffisegol.”
Bydd y system ar-lein archebu Gofyn a Chasglu yn agor ganol-dydd ddydd Mawrth 23 Mehefin. Bydd apwyntiadau casglu ar gael o ddydd Mawrth 30 Mehefin ar ddyddiau Mawrth a dyddiau Iau yng Nghas-gwent a dyddiau Mawrth a dyddiau Gwener yn Nhrefynwy.
Mae cyfyngiadau’r pandemig coronafeirws yn golygu na fydd mynediad i’r gwasanaethau eraill sydd ar gael fel arfer o’r adeiladau – er enghraifft cyfrifiaduron, llungopïo a thoiledau. Gall preswylwyr gydag unrhyw ymholiadau’n gysylltiedig â’r cyngor gael mynediad i ap Fy Sir Fynwy, sgyrsfot Monty y cyngor neu ffonio’r Ganolfan Cyswllt ar 01633 644644.
Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth are gael yn: : https://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-libraries/
Gall cwsmeriaid gofrestru am aelodaeth ar-lein: : https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/mmou_en
Gall preswylwyr heb fynediad i’r rhyngrwyd ddefnyddio’r gwasanaeth drwy ffonio 01633 644644.
Mae bagiau ailgylchu ar gael o’r lleoliadau dilynol: