Skip to Main Content


Mae blodau gwyllt wedi denu peillwyr mewn niferoedd cynyddol diolch i’r dull torri gwair dethol

Eleni, gwelwyd cryn dipyn yn fwy o ddolydd gwyllt ar draws llecynnau agored Sir Fynwy, gan fod timau cynnal a chadw tir y Cyngor wedi gadael gwair ymylon a pharciau heb eu torri, i raddau helaeth, er mwyn caniatáu i flodau gwyllt dyfu a denu mwy o beilliwyr. Mae’r mesurau hyn wedi helpu i gefnogi bioamrywiaeth a chyfrannu at gynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd Cyngor Sir Fynwy. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac fe amlygwyd camau gweithredu’r Cyngor yn ddiweddar gan gyfres hanes naturiol y BBC Springwatch.

Mae’r newid i ddull torri glaswellt mwy cyfyngedig gydol y gwanwyn wedi dod â dysgu ac addasu a chyfres newydd o heriau wrth i’r haf agosáu. Roedd y cyfnod di-dorri estynedig yn rhoi cyfle gwych i weld llu o fflora mewn parciau a glaswelltir mannau cyhoeddus.

Bydd rheoli i ddiogelu gwerth ecolegol glaswelltir dolydd yn golygu rhywfaint o dorri ac mewn llawer o sefyllfaoedd bydd angen casglu’r borfa hefyd. Bydd hyn yn helpu i leihau’r nitradau yn y tyweirch, gan gyflwyno amgylchedd mwy addas i fflora brodorol egino eto.

Mae logisteg y gwaith hwn yn gymhleth, yn anad dim oherwydd fflyd peiriannau torri gwair y Cyngor sydd heb eu haddasu i drin y math hwn o laswelltir. Yn ogystal, bydd angen i’r Cyngor ystyried y gwaith o gludo a gwaredu toriadau porfa, rhywbeth na chafodd ei wneud ar y raddfa hon o’r blaen.

“Bydd gadael y gwaith hwn tan ddiwedd yr haf yn achosi problemau mawr, ac os bydd unrhyw anawsterau’n codi ni fyddai gennym fawr o allu a chadernid o fewn ein timau i reoli’r llwyth gwaith hwn. Felly, rydym wedi gwneud penderfyniad i ddechrau treialu torri a chasglu lleiniau a rhannau llai o laswelltir dolydd ar ein mannau agored lle mae’r fflora bellach wedi blodeuo,” meddai’r Cynghorydd Jane Pratt, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am barciau a mannau agored.

“Bydd hyn yn ein galluogi i wahanu’r llwyth gwaith a llywio ein cynlluniau logisteg. Byddwn hefyd yn cael gwell dealltwriaeth o gyfyngiadau’r peiriannau sydd ar gael i ni ac yn rhoi gwybodaeth i ni i ystyried prynu peiriannau newydd. Mae’n bwysig i nodi bydd yr amgylchiadau anarferol eleni yn dal i chwarae rhan wrth ein helpu i ddysgu beth y gallwn ac na allwn ei gyflawni. Mae hyn yn amhrisiadwy o ran datblygu sut y byddwn yn addasu’r ffordd y caiff ein mannau agored eu rheoli dros y blynyddoedd nesaf.”

“Mae Sir Fynwy wedi bod yn ganolbwynt diddordeb gan gynghorau eraill ar hyd a lled y wlad, sydd am ddysgu mwy am yr hyn rydym wedi’i wneud a’r hyn rydym yn ei gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae rhaglen torri glaswellt Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi cael cydnabyddiaeth yn ddiweddar gan y naturiaethwr Iolo Williams ar raglen Springwatch y BBC. Mae’r ganmoliaeth hon yn deillio o waith nid yn unig y Cyngor, ond trigolion, grwpiau cymunedol, Cymdeithas Tai Sir Fynwy a chynghorau tref, sydd wedi llwyr gefnogi ymgyrchoedd fel Natur Wyllt a No Mow May. Rydym yn awyddus i barhau i weithio i wella bioamrywiaeth ymhellach ac adeiladu ar y llwyddiant hwn,” meddai’r Cynghorydd Pratt.

Bydd y Cyngor yn parhau â chyfundrefn ‘rheoli dolydd’ o ran mannau agored Sir Fynwy yn y dyfodol rhagweladwy.