Mae Sir Fynwy wedi profi pedwerydd diwrnod digwyddiad tywydd difrifol. Mae’r storm wedi effeithio ar yr holl sir ond bu ar ei waethaf ym Mrynbuga, Trefynwy a’r ardaloedd o amgylch. Mae lefelau dŵr yn Nhrefynwy yn dal yn uchel a rhagwelir mwy o dywydd garw, felly mae’r sefyllfa yn debygol o barhau am weddill yr wythnos.
Cafodd Trefynwy ei tharo’n wael yn ystod y deuddydd diwethaf. Mae gwahanol ffyrdd a phont Gwy ar gau a byddant yn parhau i fod ar gau – caiff preswylwyr eu hannog i fod yn ofalus wrth deithio. Mae dŵr llifogydd wedi sefyll yn ardal Trefynwy a all achosi perygl.
Bu llifogydd mewn cannoedd o adeiladau (preswyl a masnachol). Mae cannoedd o bobl naill ai’n byw mewn rhan o’u cartref (lan lofft) neu wedi symud i westy neu’n aros gyda ffrindiau/perthnasau.
Mae canolfan orffwys yn parhau i weithredu yn Neuadd y Sir, Trefynwy ar gyfer unrhyw breswylwyr sydd angen cymorth.
Bydd Pont Gwy yn parhau ar gau nes bydd lefel y dŵr wedi gostwng, gwirio strwythur y bont a phenderfynu ei bod yn ddiogel i bobl a gerbydau ddefnyddio’r bont eto. Mae hyn yn weithredu rhag ofn.
Cafodd Gwaith Trin Dŵr Mayhill Dŵr Cymru ei gau oherwydd y llifogydd. Mae cynlluniau yn eu lle i sicrhau fod gan bobl fynediad i ddŵr. Bydd fflyd o danceri yn parhau i lenwi’r system ddosbarthu ac mae gorsafoedd dŵr potel ar gael pe byddai cyflenwadau’n gostwng.
Dywedodd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Aiff fy nghalon mas i bobl ar draws y sir y mae’r tywydd difrifol a gawsom yn Sir Fynwy wedi effeithio arnynt. Hoffwn ddiolch i’n holl sefydliadau partner sy’n gweithio’n galed i gadw pobl yn ddiogel. Bu’r gefnogaeth a chydlynu gan bob gwasanaeth argyfwng yn rhagorol.
“Mae’r sefyllfa o amgylch Trefynwy yn heriol a deinamig. Nid ydym wedi medru arbed pob adeilad ond mae pob person yn ddiogel. Cafodd pobl gymorth lle roeddent angen hynny i adael eu cartrefi a lle mae pobl yn dewis aros rydym yn helpu lle gallwn. Cafodd nifer o bobl eu hachub mewn cychod ac rydym yn falch iawn i ddweud fod pawb a achubwyd yn ddiogel er bod nifer wedi bod angen gofal a cymorth.
“Mae’r gwaith hwn yn debyg o barhau am nifer o ddyddiau eto. Caiff preswylwyr eu cynghori i deithio’n ofalus heddiw gan fod llawer o ddŵr yn dal i fod o gwmpas.”