Mae Storm Dennis wedi achosi llifogydd mawr ar ffyrdd ac wedi effeithio ar lefelau dŵr ar yr Afon Mynwy, yr Afon Wysg a’r Afon Gwy yn Sir Fynwy. Bu Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru i gadw preswylwyr yn ddiogel. Bu timau’n dosbarthu sachau tywod, clirio coed, trin tirlithriadau a chau ffyrdd. Sefydlwyd canolfannau gorffwys i gefnogi pobl.
Bu llifogydd mewn rhai tai yn Sir Fynwy a bu’n rhaid i bobl adael eu cartrefi.
Roedd lefelau yr Afon Wysg yn uchel iawn a chafodd preswylwyr eu cynghori gan Cyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ar unwaith a chynllunio ar gyfer posibilrwydd llifogydd. Mae’r sefyllfa yn Mrynbuga yn dal i gael ei monitro.
Dywedodd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Hoffwn ddiolch o galon i bawb a fu’n gweithio ddydd a nos i gadw preswylwyr yn ddiogel. Mae ffyrdd ar draws y sir yn dal ar gau oherwydd llifogydd. Caiff preswylwyr eu hannog i yrru’n ofalus gan fod amodau yn beryglus. Byddwn yn dal i gadw golwg agos ar lefelau pob afon dros y dyddiau nesaf gan nad yw bygythiad Storm Dennis drosodd eto. Disgwylir i’r tywydd ansefydlog barhau drwy gydol yr wythnos gyda disgwyl mwy o law ddydd Mercher i ddydd Iau ond ni ddisgwylir i hyn fod cyn waethed â thywydd y penwythnos gyda llawer llai o law yn y rhagolygon. Cadwch yn dwym, cadwch yn ddiogel a pheidiwch ceisio teithio drwy ffyrdd sydd ar gau. Anelwn weithredu gwasnaethu fel arfer ddydd Llun – gofynnir i chi fod yn amyneddgar gan y gall fod peth oedi.