Bydd tri prentis newydd yn cael dechrau da i’w gyrfaoedd yr wythnos hon wrth iddynt ymuno â Chyngor Sir Fynwy i weithio o fewn y tîm gofal cymdeithasol.
Mae’r tri unigolyn brwd wedi ymuno â’r tîm ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – ymgyrch i ddathlu llwyddiannau pobl a ddechreuodd eu gyrfa mewn rôl prentisiaeth ac annog mwy o bobl i feddwl am brentisiaethau.
Y tri prentis newydd fydd y cyntaf i ymuno mewn cynllun ‘Prentisiaeth mewn Gofal’ sy’n dilyn cais llwyddiannus Sir Fynwy am gyllid o gronfa Her Economi Sylfaen Llywodraeth Cymru.
Bydd y prentisiaid yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a byddant yn gweithio o fewn gwasanaethau Sir Fynwy er mwyn darparu profiadau ymarferol a dysgu am weithio mewn gofal cymdeithasol. Bydd y swyddi ymarferol yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl yn y gymuned i’w cefnogi i fyw’n annibynnol, diogel ac iach yn eu cartrefi eu hunain ac i hyrwyddo cysylltiadau. Ar draws y 12 mis, bydd y prentisiaid hefyd yn ennill cymwysterau ffurfiol y gellir eu trosglwyddo’n llawn o fewn y sector gofal cymdeithasol.
Mae cynnydd yn y boblogaeth o bobl sy’n heneiddio yn Sir Fynwy ac amcangyfrifir erbyn 2036 y bydd 36% o 93,000 o boblogaeth y sir dros 65 oed. Bydd y cynllun yn helpu i fynd i’r afael â’r galw tebygol am fwy o bobl i weithio yn y sector gofal yn y dyfodol, gan roi trosolwg eang o’r llu o swyddi gofalu arbenigol sy’n cael effaith enfawr ar fywydau cynifer o bobl yn y sir.
Mae’r rhaglen hefyd yn anelu i ddatblygu ac adeiladu ar lwyddiannau diweddar drwy ddynodi a chreu cyfleoedd i recriwtio prentisiaid ar draws pob sector o’r awdurdod, gan roi cyfleoedd iddynt i dyfu a sicrhau cynnydd mewn awdurdod gwych. Cefnogir hyn gan y ‘Strategaeth Prentisiaid, Graddedigion ac Internau’ a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019.
Bydd y tri prentis newydd yn ymuno â charfan o 14 prentis ledled Sir Fynwy, gyda 45 o staff presennol yn cwblhau prentisiaethau lefel uwch mewn gwahanol ddisgyblaethau.
Dywedodd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu ein tri phrentis gofal cymdeithasol newydd. Aiff eu gwaith dros y 12 mis nesaf ymhell i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf bregus yn Sir Fynwy. Rwyf mor falch fod y bobl ifanc hyn yn dechrau ar eu prentisiaethau mewn sector mor bwysig ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar yr hyn fedrai fod yn llwybr gyrfa mewn Gofal.
Mae mwy o wybodaeth ar y prentisiaethau sydd ar gael gyda Sir Fynwy i’w weld yn www/monmouthshire.gov.uk/jobs-employment/.