Mae Cyngor Sir Fynwy newydd cael cymeradwyaeth i’w gais i adnewyddu ei statws Sir Masnach Deg gan sefydliad cenedlaethol Masnach Deg.
Rhoddir y wobr i gydnabod y gefnogaeth gref i Masnach Deg o fewn y sir a chyflawni pum nod cymhwyso tebyg i argaeledd eang cynnyrch Masnach Deg mewn siopau lleol a safleoedd arlwyo, lefelau uchel o gefnogaeth gan bobl leol, busnesau, y cyngor, grwpiau ffydd ac ysgolion.
Aiff llawer o waith i wneud Sir Fynwy yn sir Masnach Deg sy’n rhaid ei adnewyddu bob dwy flynedd. Mae’n rhaid i’r cyngor ddangos eu bod yn defnyddio ac yn darparu cynnyrch Masnach Deg, yn ogystal â helpu pedwar grŵp Tref Masnach Deg gweithgar iawn i hysbysu pobl am Masnach Deg.
Dywedodd Sefydliad Masnach Deg: “Mae eich grŵp wedi dangos ymroddiad i fynd â’ch ymgyrch ymlaen a sicrhau bod Masnach Deg yn dod yn rhan o fywyd bob dydd yn Sir Fynwy. Fe wnaeth cwmpas eich digwyddiadau drwy gydweithio gyda Chyngor Sir Fynwy a grwpiau tref Masnach Deg eraill argraff arbennig arnom. Rydych wedi llwyddo i ymgysylltu’n llwyddiannus gyda nifer fawr o bobl drwy ddigwyddiadau gyda siaradwyr diddorol.”
Mae rhai o uchafbwyntiau’r ddwy flynedd ddiwethaf yn cynnwys Tîm Datblygu Chwaraeon y cyngor sy’n defnyddio peli chwaraeon Masnach Deg ar gyfer eu gwaith, yn ogystal ag ymgorffori logo tref Masnach Deg ar arwyddion newydd meysydd parcio ar draws y sir.
Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol, “Rwy’n falch iawn ein bod wedi adnewyddu ein statws Sir Masnach Deg unwaith eto, fydd o fantais i gynifer o ffermwyr a thyfwyr mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae’n cymryd ymroddiad, egni a dyfalbarhad parhaus i gadw proffil uchel Masnach Deg ym meddyliau pobl. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’n holl wirfoddolwyr yng ngrwpiau Tref Masnach Deg y Fenni, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga sydd â’r holl nodweddion hyn a mwy.
Diolch i gefnogaeth barhaus y cyhoedd a ymgyrchwyr, mae nifer cynyddol o ffermwyr mewn gwledydd sy’n datblygu yn awr yn gwerthu eu cynnyrch ar delerau Masnach Deg, gan roi incwm sefydlog iddynt a chyfle i fasnachu eu ffordd allan o dlodi.