Cafodd BywydMynwy ei lansio ar 6 Ionawr 2020, cynllun cyffrous sydd wedi uno pob gwasanaeth a chyfleuster dan un brand, gan gynyddu ymwybyddiaeth a gwella cyfleoedd ar gyfer pawb.
Mae BywydMynwy yn rhan o Gyngor Sir Fynwy ac mae’n cyflwyno gwasanaethau hamdden, ieuenctid ac addysg awyr agored, seilwaith gwyrdd a mynediad i gefn gwlad, chwarae, dysgu, rheoli cyrchfannau, celfyddydau, amgueddfeydd ac atyniadau.
Mae BywydMynwy yn cynnig rhai o’r adeiladau mwyaf trawiadol gyda diddordebau hanesyddol a gweithgareddau i ennyn diddordeb pob oed a gyda’r holl wasanaethau hyn dan un ymbarél, mae’n safleoli Sir Fynwy fel lle gwych ar gyfer byw, gweithio, chwarae ac ymweld.
Gan fod yn gydnaws gyda chynlluniau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant, bydd gan BywydMynwy rôl bwysig wrth adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn, gostwng anghydraddoldeb a chefnogi pobl fregus.
Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a BywydMynwy: “Ar amser pan mae llawer o gynghorau’n cwtogi ar wasanaethau disgresiwn, rwy’n wirioneddol falch ein bod ni yn Sir Fynwy yn diogelu ac yn gwella ein gwasanaethau hamdden ac atyniadau drwy BywydMynwy.
“Mae’r lansiad yn ymgorffori ein hymrwymiad i warchod gwasanaethau hygyrch lleol ar gyfer preswylwyr, yn cynnwys helpu pobl i fyw bywydau mwy egnïol ac annibynnol drwy ein hystod o wasanaethau a chyfleusterau amrywiol. Bydd BywydMynwy yn datblygu ffocws mwy masnachol gan sicrhau’r profiadau a chyfleoedd gorau posibl ar gyfer pobl Sir Fynwy a’r cylch.
“Gobeithio y bydd cynifer o breswylwyr ag sydd modd yn manteisio ar y cyfle i brofi ein cyfleusterau a gwasanaethau gwych a gweld drostynt eu hunain sut y gall BywydMynwy effeithio ar feddwl, corff ac enaid ein cymuned.”
Meddai’r Cyng Paul Jordan, Aelod Cabinet dros Wybodaeth Ymwelwyr, Amgueddfeydd ac Atyniadau: “Mae hwn yn ddiwrnod arbennig iawn i ddiwylliant a threftadaeth cyfoethog Sir Fynwy. Mae hyn yn wych i’n sir hardd ac atyniadau hynod.”
Ychwanegodd Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredu: “Rwy’n falch iawn i arwain BywydMynwy ac edrychaf ymlaen at ei flwyddyn gyntaf lawn yn gweithredu yn helpu BywydMynwy i dyfu a ffynnu gyda grŵp gwych o gydweithwyr angerddol ac ymroddedig. Cafodd BywydMynwy ei gynllunio gan Sir Fynwy i fod yn sefydliad newydd a deinamig sy’n symud yn gyflym gyda ffocws masnachol ond hefyd yn sicrhau fod y gwasanaethau gwerthfawr o fewn ei bortffolio yn cyfuno i roi budd enfawr i’r cymunedau, pobl ifanc a chwsmeriaid a wasanaethant. Mae ffocws strategol BywydMynwy ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, darparu cyfleoedd mewn dysgu a phrofi a chyflawni ffordd o fyw mwy egnïol i bawb.”
Roedd y lansiad yn llawn digwyddiadau ar draws pob maes gwasanaeth yn cynnwys popeth o dennis mini hyd at sesiynau Trin yr Ail Ryfel Byd, blasu bwydydd a diodydd lleol yng Nghanolfan Croeso Cas-gwent a goleuo Castell Cil-y-coed – roedd y diwrnod yn ddathliad i bawb. Roedd staff yn bresennol i siarad gyda chwsmeriaid am BywydMynwy a’i weledigaeth i gyfoethogi bywydau pobl a chreu mannau egnïol.