Mae BywydMynwy yn dathlu ennill gwobr bwysig am helpu pobl gydag anableddau i gael mynediad i chwaraeon.
Cyflwynwyd Safon Arian insport i’r grŵp gwasanaeth, a gaiff ei reoli gan Gyngor Sir Fynwy, mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor gan Michelle Daltry, Rheolwr Partneriaeth, Chwaraeon Anabledd Cymru ddydd Iau 16 Ionawr.
Nod rhaglen Datblygu insport yw cefnogi a chyflwyno cynhwysiant ar gyfer pobl anabl drwy becyn cymorth a ddatblygwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru, gan gefnogi meddwl, cynllunio, datblygu a chyflenwi cynhwysol. Mae hyn yn golygu y gall staff BywydMynwy Egniol gynnig darpariaeth ar draws y sbectrwm i bobl anabl a heb fod yn anabl ar ba bynnag lefel y dymunant i gymryd rhan neu gystadlu.
Drwy gyflawni’r safon caiff cyfleoedd eu hehangu, bydd cyfranogiad yn cynyddu, mae pobl anabl yn dod yn fwy egniol ac yn ymgysylltu mwy ac mae gennym genedl sydd wedi dwlu am chwaraeon gydol eu hoes. Bydd hyn yn sicrhau newid diwylliant mewn agwedd, dull gweithredu a darpariaeth gweithgaredd corfforol a mwy o gyfleoedd i bobl anabl.
Drwy’r pedwar safon – Rhuban, Efydd, Arian ac Aur, caiff pob partner ei gefnogi gan Chwaraeon Anabledd Cymru i dyfu eu harbenigedd a’u dealltwriaeth o chwaraeon anabledd, gyda’r nod o bartneriaid yn dod yn gynyddol fwy annibynnol ac yn medru dangos gwell darpariaeth a chefnogaeth i bobl anabl.
Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet dros Addysg a Hamdden: “Mae ennill y wobr Arian yn dangos yr ymrwymiad i gynhwysiant gan BywydMynwy a Chyngor Sir Fynwy i gynyddu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer pobl anabl a’n hymrwymiad parhaus i chwarae rôl sylweddol mewn adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf, gostwng anghydraddoldeb a chefnogi pobl fregus. Mae Cabinet yn rhoi cefnogaeth lawn i’r daith i’r Achrediad Aur”.
Meddai Michelle Daltry, Rheolwr Partneriaeth Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn dymuno llongyfarch BywydMynwy ar ennill Safon Arian insport. Mae’n dangos y math o waith maent yn ei wneud ar hyn o bryd ac wedi ymrwymo i’w wneud yn y dyfodol, a bydd yn sicrhau datblygiad parhaus chwaraeon cynhwysol i gymunedau anabl yn ardal Sir Fynwy. Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig.”
Wrth i BywydMynwy barhau ar daith Datblygu insport, mae derbyn y Safon Arian yn glod mawr i’r holl staff sy’n gysylltiedig. Mae BywydMynwy yn ymroddedig y bydd pob maes gwasanaeth yn dangos y newid diwylliannol cynhwysol drwy fynd drwy achrediad insport gyda’r nodau craidd o gynnwys ei weithio partneriaeth gydag Addysg, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.