Sut ydym yn gwario eich arian a beth sy’n rhan o’ch bil
Mae’r dreth gyngor yn helpu i ariannu gwasanaethau lleol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, goleuadau stryd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer mwy.
Codir y dreth gyngor ar yr aelwyd ac mae’n seiliedig ar werth yr eiddo. Mae swm y dreth gyngor a dalwch yn dibynnu ar y band eiddo y mae eich tŷ ynddo. Y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n pennu’r bandiau hyn.
Mae’r swm yr ydych yn talu hefyd yn dibynnu a oes gennych hawl i unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.
Gweler nodiadau esboniadol y Dreth Gyngor am ragor o wybodaeth.
Faint sy’n rhaid i mi dalu?
I gael gwybod faint o’r dreth gyngor y byddwch yn ei dalu, bydd angen i chi wybod y Cyngor Cymuned a’r band treth gyngor y mae eich eiddo ynddo. Yna, gallwch wirio hyn yn erbyn ein tabl tâl fesul band.
Yn seiliedig ar eiddo Band D cyfartalog, cyfanswm y tâl ar gyfer 2024/25 yw £2,110.67, o gymharu â £1,959.94 yn 2023/24. Mae’r tâl hwn wedi’i ddadansoddi fel a ganlyn:
2023/24 | 2024/25 | % cynnydd | |
Cyngor Sir Fynwy | £1,564.66 | £1,686.70 | 7.80 |
Comisiynydd Heddlu a Throseddu | £324.52 | £349.52 | 7.70 |
Cyngor Cymuned | £70.76 | £74.45 | 5.21 |
CYFANSWM | £1,959.94 | £2,110.67 | 7.69 |
O’r 1af Ebrill 2024, bydd eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y Sir yn destun Premiwm Treth y Cyngor. Mae hwn yn swm ychwanegol o dreth gyngor i’w dalu ar ben y bil treth gyngor safonol.
Ar gyfer eiddo gwag hirdymor bydd premiwm o 100% yn berthnasol i eiddo sy’n wag am fwy na blwyddyn a bydd premiwm o 200% yn berthnasol i eiddo sy’n wag am fwy na dwy flynedd a phremiwm o 300% ar eiddo sy’n wag am 3 blynedd neu fwy.
Ar gyfer ail gartrefi, bydd premiwm o 100% yn cael ei godi, er y bydd busnesau sy’n symud o’r rhestr fasnachol (Trethi Busnes) i’r rhestr ddomestig (y dreth gyngor) yn cael eu heithrio o’r premiwm am 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y dreth gyngor safonol yn dal i fod yn daladwy.
Mae rhagor o wybodaeth am bremiymau’r dreth gyngor ar gael yma.
Mae’r Dreth Gyngor yn cynnwys tair elfen:
Mae cyllideb Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2024/25 yn cynnwys cynnydd o 7.8% yn y dreth gyngor.
Y gyllideb refeniw gros ar gyfer yr Awdurdod (gan gynnwys praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Chynghorau Cymuned) yw £219,903,850. Mae hyn yn cynnwys £1,121,932 o ddefnydd cynlluniedig o gronfeydd refeniw wrth gefn. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd lefel gyffredinol y cronfeydd refeniw defnyddiadwy wrth gefn yn £15,029,000 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mae’r gyllideb a roddwyd ar waith yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiadau, er enghraifft:
• Buddsoddi £2.4m yn fwy mewn Addysg
• £4.3m yn fwy wedi’i fuddsoddi mewn Gofal Cymdeithasol
• £2.0m pellach i’r gwasanaeth Gwastraff, a chynnal a chadw ffyrdd, palmentydd ac isadeiledd priffyrdd eraill
I gael manylion am sut y caiff yr arian hwn ei wario, ewch yma.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynyddu’r swm sydd ei angen arno gan drethdalwyr y Cyngor yn 2024/25 i 7.7%. I gael manylion am sut y caiff yr arian hwn ei wario, ewch yma.
Cynghorau Cymuned – mae’r tâl Band D cyfartalog ar gyfer 2024/25 wedi cynyddu 5.21%. Bydd taliadau’n amrywio fesul Cyngor Cymuned a bydd y swm a godir yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
I weld y gwariant blynyddol disgwyliedig a’r tâl band D ar gyfer y cyngor cymuned yr ydych yn byw ynddo edrychwch ar ein tâl fesul tabl band. I gael manylion am sut caiff yr arian hwn ei wario mae angen i chi gysylltu â’ch Cyngor Cymuned. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld yma – Manylion Cyswllt y Cynghorau Cymuned.