DYDDIAD CAU TENDRAU – 12:00 (canol-dydd) 20 RHAGFYR 2024
Nodweddion Allweddol
- Arwynebedd Mewnol Gros 2,992 tr sg
- Lleoliad yng nghanol dref gyda mannau parcio gerllaw
- Adeilad cymunedol addas ar gyfer defnyddiau lluosog
Manylion Marchnata a Ffurflenni Tendr
Ffurflen Dendro
LLEOLIAD A DISGRIFIAD O’R SAFLE
Mae gan adeilad cyn Lyfrgell y Fenni restriad Gradd II a chafodd ei godi yn 1905 gan Sefydliad Carnegie. Codwyd yr adeilad er budd ac er gwasanaeth y gymuned leol ar gyfer dibenion addysgol.
Mae gan y cyn lyfrgell arwynebedd mewnol gros o tua 2,992 tr sg ac mae wedi ei leoli ar gornel Stryd Baker a Stryd Victoria. Mae’r llawr daear yn cynnwys dwy ystafell dderbyn fawr, cyntedd, toiled a storfa. Ar y llawr cyntaf mae nifer o swyddfeydd, toiled a chegin fach.
DULL GWERTHU
Derbynnir cynigion i naill ai brynu a/neu brydlesu’r eiddo (derbynnir cynigion lluosog). Gofynnir i bartïon â diddordeb gyflwyno ffurflen tendr i Dîm Stadau Cyngor Sir Fynwy yn defnyddio’r ffurflenni tendr a ddarparwyd, ddim hwyrach na 12:00pm ar 20 Rhagfyr 2024. Caiff cynigion eu hasesu ar fatrics sgorio yn cynnwys cynnig ariannol, diwydrwydd dyladwy, profiad a galluedd cyllido. Caiff partïon hefyd eu hannog i roi manylion buddion ychwanegol, yn cynnwys unrhyw gynigion i ddefnyddio cyflogaeth/llafur lleol ac uchafu budd lleol.
STATWS CYNLLUNIO
Ei Ddosbarth Defnydd cyfredol (fel llyfrgell) yw D1 ond os yw partïon sydd â diddordeb yn anelu newid defnydd dylent gysylltu â’r Tîm Stadau yn y lle cyntaf – 01633 644417.
Cysylltwch â Ni
Estates@monmouthshire.gov.uk
01633 644417
Dychwelyd i’r dudalen Eiddo Ar Gael