Rydym yn hynod falch i fod wedi llofnodi Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog fel rhan o gynllun gan y Llywodraeth i hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth rhwng y lluoedd arfog a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Beth yw’r Cyfamod Lluoedd Arfog?
Mae Cyfamod Cymunedol yn ymrwymiad gwirfoddol i annog elusennau, awdurdodau lleol, busnesau, cymunedau ac unigolion i gydweithio gyda’r lluoedd arfog i gynnig cefnogaeth i aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yn ogystal â’r lluoedd wrth gefn a chyn-aelodau.
Gwneir Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog rhwng aelodau presennol a chyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, sy’n gweithio ac yn byw yn Sir Fynwy.
Mae Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Sir Fynwy yn ddatganiad gwirfoddol o gefnogaeth rhwng cymuned sifil a’i chymuned Lluoedd Arfog ar lefel leol.
Diben y Cyfamod Cymunedol hwn yw annog cefnogaeth ar gyfer y gymuned Lluoedd Arfog sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy a chydnabod a chofio aberth aelodau cymuned y Lluoedd Arfog, yn arbennig y rhai a roddodd fwyaf. Mae hyn yn cynnwys aelodau presennol a chyn-aelodau’r lluoedd arfog, eu teuluoedd a’u gweddwon ledled Sir Fynwy.