Skip to Main Content

HYSBYSIAD AMRYWIAD FFIOEDD MEWN MANNAU PARCIO ODDI AR Y STRYD

Mae gennym feysydd parcio talu ac arddangos yn Y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy

Mae’n rhaid talu ac arddangos yn y meysydd parcio rhain o ddydd Llun i Dydd Sul o 8am i 6pm gan gynnwys ar wyliau’r banc.

Mae ein peiriannau talu ac arddangos yn derbyn taliadau arian parod a cherdyn/digyffwrdd. Gallwch hefyd dalu gan ddefnyddio’r Ap PayByPhone.

Os cewch unrhyw broblemau gyda thalu gyda PBP cysylltwch  â PBP drwy eu cyfeiriad e-bost  – uksupport@paybyphone.com neu fynd i’w gwefan – PayByPhone Support UK – Website – https://support.paybyphone.co.uk/hc/en-us

Dim ond ar gwsmeriaid sy’n dewis derbyn Derbynebau SMS a Hysbysiadau SMS y mae PayByPhone yn codi ffi ychwanegol. Mae’r gwasanaethau hyn yn ddewisol a gellir eu troi ymlaen neu i ffwrdd o fewn eich cyfrif ar unrhyw amser. I gael mwy o wybodaeth am yr opsiynau ychwanegol hyn a’r costau, ewch i’r ddolen hon i wefan PayByPhone: Optional texts (paybyphone.co.uk)

Mae mannau parcio i’r anabl ar gael yn ein meysydd parcio oddi ar y stryd ac maent am ddim mewn unrhyw fae sydd wedi’i farcio os dangosir bathodyn anabl dilys.

Mae mannau gwefru cerbydau trydan wedi’u cyflwyno i nifer o’n Meysydd Parcio ledled y sir. Mae’r trefi hyn yn cynnwys – Trefynwy, Y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed a Brynbuga.

Mae parcio ar gyfer beiciau modur a beiciau yn rhad ac am ddim mewn ardaloedd a gymeradwywyd; er mwyn gweld y meysydd parcio sydd â chyfleusterau beiciau modur a fyddech gystal ag ymweld â Ein Meysydd Parcio.

Ni chaniateir unrhyw gerbydau dros 3.5 tunnell a dim annedd dros nos na masnachu yn unrhyw un o’n meysydd parcio

Mae costau parcio fel a ganlyn:

Arhosiad Byr

Hyd arhosiad

Cost

2 awr

£2.00

3 awr

£2.40

4 awr

£3.00

Dydd Sul – 2 awr gyntaf am ddim£1.30 (Gweddill y diwrnod)

Dim dychwelyd o fewn 2 awr

Arhosiad Hir

Hyd arhosiad

Cost

2 awr

£2.00

3 awr

£2.40

4 awr

£3.00

Tocyn 5 niwrnod £23.00
Tocyn 6 niwrnod £27.50
Trwy’r Dydd£6.20
Dydd Sul – 2 awr gyntaf am ddim£1.30 (Gweddill y diwrnod)

Bellach mae tâl arhosiad hir o £2.00 i barcio trwy’r dydd yn y meysydd parcio canlynol:

(Dydd Sul – 2 awr gyntaf am ddim £1.30 Gweddill y diwrnod)

Neuadd Dril, Cas-gwent

Mae Tariffau Parcio Eraill yn berthnasol i’r Meysydd Parcio isod:

Maes Parcio Lôn Byefield: £6.20 ar ddydd Mawrth yn unig

Maes Parcio Caeau Chwarae Rogiet: Tal o £2.20 i barcio trwy’r dydd (dydd Llun i ddydd Gwener)

Maes Parcio’r Parc Gwledig Rogiet: Y 3 awr gyntaf am ddim, £5.50 y dydd wedi hynny

Parcio Cyffordd Twnnel Hafren: £3.30 ar ddydd