Mae cynllun a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Fynwy er budd gwenyn, pryfed eraill sy’n peillio a’u cynefinoedd wedi ennill gwobr bwysig.
Enillodd Cynllun Gweithredu y Seilwaith Gwyrdd ar gyfer Peillwyr Wobr y Llywydd yn seremoni flynyddol y Sefydliad Tirlun ddydd Iau 25 Tachwedd. Y cynllun yw’r cyntaf o’i fath ac mae’n nodi sut gall perchnogion tir drin eu heiddo’n fwy effeithlon a chydweithio i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn gwenyn a pheillwyr eraill.
Paratowyd y cynllun gan benseiri tirlun TACP o Gaerdydd a rheolwyd y prosiect gan Mackley Davies Associates Cyf i greu cynefinoedd newydd ar gyfer peillwyr ar ran cynghorau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen. Roedd y cynllun yn un o nifer o brosiectau unigol ac ar y cyd a ffurfiodd ran o brosiect Peillwyr am Oes a gydlynwyd gan Gyngor Torfaen, ac a gyflwynwyd gan y pedwar cyngor lleol gyda chyllid o raglen Cronfa Natur Llywodraeth Cymru. Cafodd gwaith Sir Fynwy ar y Cynllun Gweithredu ei ategu gan ddatblygu gardd peillwyr ym Mrynbuga a’i ysbrydoli gan ei ddull polisi seilwaith gwyrdd newydd at ddatblygu a rheoli. Canmolwyd y cynllun yn neilltuol am y manteision a ddaeth yn sgil cydweithio rhwng cynghorau cyfagos, landlordiaid cymdeithasol, gwasanaethau argyfwng, ysgolion, perchnogion tir a grwpiau cymunedol eraill. Mae’n amlinellu camau gweithredu i annog gwenyn a phryfed peillio eraill. Mae hyn yn cynnwys torri glaswellt i wahanol uchder ar wahanol adegau’r flwyddyn a datblygu dolydd blodau gwyllt neu ardaloedd plannu ffurfiol.
Cynllun gweithredu seilwaith gwyrdd ar gyfer peillwyr yn ne-ddwyrain Cymru (Dogfen Dechnegol)
Rheoli Tir Ysgol ar gyfer Peillwyr – Cyflwyniad i benaethiaid ysgolion
Rheoli Ardaloedd Preswyl ar gyfer Peillwyr – Cyflwyniad i reolwyr stadau
Rheoli Ymylon Priffyrdd ar gyfer Peillwyr – Cyflwyniad i reolwyr priffyrdd
Rheoli Gofodau Gwyrdd ar gyfer Peillwyr – Cyflwyniad i reolwyr