Skip to Main Content

Heddiw (11 Mawrth 2021), mae Cyngor Sir Fynwy wedi pennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.  Nid yw hyn byth yn broses hawdd. Y flwyddyn i ddod bydd ein mwyaf heriol wrth i ni weithio gyda chymunedau i lywio ffordd ymlaen yn sgil blwyddyn o drasiedi fawr.  Bydd y Cyngor yn blaenoriaethu ei wariant ar faterion a fydd yn helpu pobl i fyw eu bywydau yn y ffordd y maent yn dewis.  Byddwn yn diogelu gwasanaethau i’r rhai mwyaf agored i niwed, yn sicrhau bod ysgolion mewn sefyllfa dda i gefnogi eu dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol, a sicrhau y gellir bodloni’r galw cynyddol mewn gofal cymdeithasol i oedolion a’r gwasanaethau i blant. Mae’r gyllideb yn ailymrwymo’r cyngor i agenda sy’n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb o fewn ein cymunedau a rhyngddynt.  Wrth i ni adael camau presennol y pandemig, byddwn yn parhau’n wyliadwrus ac yn barod i ymateb pe bai amgylchiadau’n cymryd tro er gwaeth eto.   

Yn dilyn adborth gan breswylwyr ar gynigion cychwynnol a gyhoeddwyd ar 20fed Ionawr 2021, ac a gasglwyd dros y cyfnod ymgynghori llawn, mae’r cyngor wedi diwygio ei gynigion ac mae’r rheini wedi’u cadarnhau heddiw.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:  “Hoffwn ddiolch i bob preswylydd sydd wedi rhannu eu hadborth gyda ni.  Rydym wedi gwrando arnoch. Mae’r newidiadau dilynol i’r gyllideb yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym sy’n bwysig i chi.  Yn benodol, eich pryderon y gallai’r cynnydd arfaethedig o 4.95% yn y dreth gyngor effeithio ar y rhai sydd fwyaf difreintiedig yn ariannol oherwydd y pandemig COVID-19 ac oherwydd y cyfnodau cloi sydd wedi mynd law yn llaw â hynny. O ganlyniad, gallaf gadarnhau y bydd cynnydd y dreth gyngor yn y flwyddyn i ddod yn gostwng i 3.89%. Newid, gwella ac addasu ein gwasanaethau, yn hytrach na’u cau, yw ein dull o weithredu o hyd. Mae’r gyllideb hon yn dangos uchelgais i’r sir yn wyneb yr amseroedd mwyaf heriol.”

Dyma rai o’r buddsoddiadau mawr y cytunwyd arnynt gan y cyngor heddiw:

  • Diogelu ysgolion drwy ariannu’n llawn yr holl gynnydd cyflog a phensiwn
  • Cydnabod pwysau gofal cymdeithasol; yn bennaf o amgylch ein poblogaeth sy’n heneiddio, oedolion sydd ag anableddau a nifer cynyddol o blant sy’n derbyn gofal
  • Cydnabod pwysau a arweinir gan alw o ran plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
  • I gadw at bob dyfarniad cyflog cenedlaethol a pharhau â’i sefyllfa i bennu isafswm cyflog yn unol â’r Cyflog Byw, a bennwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw, ac mae hynny hefyd yn berthnasol i rolau prentisiaeth o fewn y cyngor.
  • Cynyddu’r buddsoddiad mewn cynlluniau lliniaru llifogydd dros y flwyddyn nesaf a’r tymor canolig.
  • Creu cyllid cyfalaf o £1m i gefnogi ceisiadau grant sy’n gofyn am gyfraniad gan y cyngor, yn fwyaf nodedig mewn perthynas â cheisiadau Teithio Llesol sylweddol sydd wedi’u cyflwyno’n ddiweddar i Lywodraeth Cymru
  • Gwario £0.8 miliwn ychwanegol ar gynlluniau cynnal a chadw priffyrdd.
  • Parhau i weithio ar ysgol 3-18 oed newydd yn y Fenni.
  • Darparu cartref preswyl newydd i Severn View.
  • Bwrw ymlaen â gwaith dichonoldeb ar seilwaith trafnidiaeth newydd yng Nghas-gwent ac o’i amgylch.
  • Parhau â chynlluniau i adfywio canol Cil-y-coed.

Aeth y Cynghorydd Murphy ymlaen i ddweud:  “Mae amrywiaeth o newidiadau i wasanaethau a lleihau costau eisoes wedi digwydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gan gynnwys cau Ysgol Tŷ Mounton, er bod y gwasanaethau’n parhau mewn mannau eraill, cau Canolfan Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu Brynbuga a chynnydd yn y taliadau am gasglu gwastraff gardd.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn well nag yr oeddem yn disgwyl i ddechrau, ond nid yw’n gwneud iawn am y pwysau sylweddol ar wasanaethau y mae’r cyngor yn parhau i’w hwynebu. Mae’r rhagolygon tymor canolig yn ansicr a disgwyliwn i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu cymorth ariannol penodol i dalu costau eithriadol sy’n gysylltiedig ag ymateb i bandemig COVID ac ymestyn y cymorth hwn tuag at gefnogi ac adeiladu cymunedau a busnesau tecach. Mae gan lywodraeth leol rôl hanfodol i’w chwarae yn yr ymdrech hon a bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymateb i’r her hon.

“Unwaith eto rydym yn y sefyllfa o fod y cyngor a ariennir isaf yng Nghymru o bell ffordd. Mae system bresennol Cymru o rannu arian yn annheg ac yn gwahaniaethu yn erbyn trigolion Sir Fynwy.  Rydym yn parhau i ddarparu rhai o’r gwasanaethau gorau yng Nghymru ond rydym yn gorfod eu darparu heb gyllid digonol.  Nid yw hon yn ffordd ymlaen sy’n gynaliadwy i siroedd gwledig, daearyddol fawr fel un ni ac ni fyddwn yn rhoi’r gorau i’n galwad ar Lywodraeth Cymru i adolygu sut y maent yn rhannu’r arian. 

“Erys ansicrwydd sylweddol, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi eglurder ar ein cyllid wrth symud ymlaen i 2022/23 a thu hwnt. Ni ddylid ystyried llywodraeth leol fel y partner tlawd yn nheulu ehangach y sector cyhoeddus. Mae’n chwarae rhan hanfodol ochr yn ochr â’r GIG yng Nghymru, gan gadw pobl yn ddiogel drwy’r cyfnod anoddaf hwn.  Nid ydym yn gofyn unrhyw beth mwy na bod hyn yn cael ei gydnabod,” meddai’r Cynghorydd Fox.

20/1/2021

Mae cynigion cyllideb y cyngor ar gyfer 2021-2022 wedi’u pennu ar ôl blwyddyn ddigynsail sydd wedi dod â phwysau sylweddol na ellir eu hosgoi, nid yn unig o ganlyniad i ofynion y gwasanaethau ond o’r effaith a’r ymateb i’r pandemig a’r achosion niferus o lifogydd. Er bod y Cyngor wedi derbyn cyllid llawn ar gyfer costau ychwanegol a cholledion incwm sy’n deillio o’r pandemig, ac yn gweithio ar y sail y bydd hyn yn parhau, mae’r cyngor yn dal i wynebu gwerth £10.1m o gostau a phwysau gwasanaethau na ellir eu hosgoi.

Nod cynigion y gyllideb ddrafft yw parhau i gefnogi blaenoriaethau’r Cyngor, a nodir yn y Cynllun Corfforaethol a’n Cynllun Coronafeirws y Gaeaf. Ar ôl sawl blwyddyn o gyflawni arbedion sylweddol, bydd y ffordd o sicrhau arbedion pellach wedi dod yn fwyfwy heriol.  Gwaethygwyd y sefyllfa hon gan y pandemig a’r achosion difrifol o lifogydd, sydd wedi gofyn am ymateb brys a’r angen i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu darparu’n effeithiol mewn amgylchiadau anodd.  Rydym wedi bod yn ofalus ac yn feddylgar wrth lunio pecyn ariannu sy’n ceisio lleihau, ac yn y rhan fwyaf o achosion atal, unrhyw effaith ar wasanaethau allweddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau sy’n wynebu awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae’r Cyngor wedi cael cynnydd uwch na’r cyfartaledd yn ei setliad – 3.9%, yn erbyn cynnydd cyfartalog o 3.8% ledled Cymru.  Fodd bynnag, sir Fynwy sy’n dal i gael y cyllid lleiaf y pen o’r boblogaeth (£1,067) o’i gymharu â gweddill Cymru (£1,471 ar gyfartaledd).

Mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio ei gronfeydd wrth gefn cyfyngedig i gefnogi’r gyllideb, a chynnig pecyn o arbedion gwerth £3.7m, ac sy’n cynnwys penderfyniadau a wnaed eisoes yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys y gwasanaeth gwastraff gardd gwyrdd, cyflwyno bagiau ailgylchu y gellir eu defnyddio a newidiadau i’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae arbedion hefyd yn deillio o gau ysgol Tŷ Mounton a gyhoeddwyd yn flaenorol. Ni fydd cau’r adeilad hwn yn arwain at dynnu gwasanaeth yn ôl gan fod darpariaeth arall wedi’i darparu i gyn-ddisgyblion Sir Fynwy ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol yn ein darpariaeth yn y sir ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anawsterau ymddygiad ac sy’n edrych am gefnogi plant mewn ysgolion prif ffrwd lle bo hynny’n bosibl. Mae cyllidebau blynyddoedd blaenorol wedi gweld gwasanaethau rheng flaen yn gorfod sicrhau arbedion sylweddol; fodd bynnag, nid yw hyn yn wir eleni am y rhesymau uchod.

Mae’r Cyngor yn fwy dibynnol ar y dreth gyngor nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru am ei gyllid craidd ac er bod y pwysau sylweddol wedi’u gwrthbwyso’n rhannol gan setliad Llywodraeth Cymru, a defnydd untro o gronfeydd wrth gefn a derbyniadau cyfalaf, mae dal angen iddo gynnig cynnydd o 4.95% yn y dreth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-2022. Bydd cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor yn cynnig mesurau lliniaru i’r rhai ar incwm isel a’r rhai sy’n cael budd-daliadau.  Mae aelwydydd un person hefyd yn gymwys i gael gostyngiad o 25% ar y dreth gyngor.  Rydym wedi cyfyngu ar unrhyw gynnydd mewn ffioedd a thaliadau lle y bo’n bosibl, ond mae cynnydd chwyddiannol mewn taliadau am ofal cartref a phreswyl hefyd yn seiliedig ar brawf modd ac wedi’i gapio i liniaru effaith y rhai sydd ar yr incwm isaf unwaith eto.

Am restr gynhwysfawr o gynigion cliciwch ar y dolenni isod:

Cynigion cyllideb refeniw drafft 2021/22 – crynodeb o’r pwysau a’r arbedion

YMGYSYLLTU Â’R GYLLIDEB – rhannwch eich adborth

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 17eg Chwefror 2021. Rhannwch eich adborth ar y cynigion drwy’r ffurflen hon.


Gwyliwch y Ffrwd Fyw ar y Gyllideb o’r 27ain Ionawr 2021