Yma, cewch wybodaeth am y canlynol:
- Mynwentydd sy’n eiddo i Gyngor Sir Fynwy
- Manylion cyswllt
- Hawliau neilltuedig claddu
- Claddedigaethau cartref
- Datgladdiadau
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi’i dynodi’n “awdurdod claddu”. Rydym yn rheoli pedair mynwent sydd ar agor, sef:
- Cas-gwent
- Llanelli Hill, Y Fenni
- Llan-ffwyst, Y Fenni
- Trefynwy
Rydym hefyd yn gyfrifol am fynwent sydd ar gau yn Old Hereford Road.
Mae pob un o’r mynwentydd yn cael ei rheoli gan swyddogion sydd wedi’u lleoli yn y siopau un stop lleol.
Am gladdedigaethau yng Nghil-y-coed, cysylltwch â Chyngor y Dref ar 01291 420441.
Hawliau neilltuedig claddu
Am bob claddedigaeth mewn mynwent y cyngor, rhoddir hawl neilltuedig claddu i unigolyn neu unigolion cyfrifol y cytunwyd arnynt (fel arfer, aelod(au) o’r teulu). Mae hyn yn golygu bod gan ddeiliad yr hawl neilltuedig claddu rai hawliau dros y bedd.
Sut ydw i’n trosglwyddo hawl neilltuedig claddu rhwng unigolion?
Mae amryw resymau pam y gall fod yn angenrheidiol i drosglwyddo’r hawl neilltuedig claddu. Er enghraifft, gallai deiliad yr hawl neilltuedig claddu farw neu gallai ddymuno ymwrthod â’i hawliau.
Gellir cyflawni’r trosglwyddiad mewn ffyrdd sy’n amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Gofynnir i chi felly gysylltu â’r siop un stop berthnasol i gael cyngor.
Claddedigaethau cartref
Gall fod modd claddu anwyliaid ar eich tir preifat eich hun. Gellir cael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â’ch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol.
Datgladdiadau
Ceir adegau pan, am amryw resymau, efallai y bydd yn rhaid datgladdu’r ymadawedig.
Efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â’ch siop un stop leol neu drefnydd angladdau i’ch arwain drwy’r broses.
Rhaid cael caniatâd ar gyfer pob datgladdiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae canllawiau datgladduar gael.